David Essex
Taith 2022
Dydd Sadwrn 17 Medi 2022, 7.30pm
Drysau yn agor am 7pm
**DYDDIAD NEWYDD 17.09.2022*
Mae’r David Essex sioe a oedd i’w gynnal ar nos Iau 29 Hydref 2020 ac nos Fercher 15 Medi 2021 wedi ei aildrefnu tan nos Sadwrn 17 Medi 2022.
Bydd y tocynnau presennol yn parhau yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.
DATGANIAD GAN YR ARTIST
Heddiw cyhoeddodd DAVID ESSEX OBE, y canwr, y cyfansoddwr a’r actor adnabyddus drwy’r gwledydd, restr gyflawn y sioeau wedi’u had-drefnu ar ei daith ledled gwledydd Prydain. Bellach bydd y daith ddeunaw o oedau yng ngwledydd Prydain ar fynd ym mis Medi 2022 yn fe’i gwêl yn perfformio hoff hits yn ymestyn dros ei repertoire cyfan.
Saethodd David i enwogrwydd gyntaf pan aeth i glyweliad ar gyfer cynhyrchiad Llundain y ddrama gerdd Godspell a chael ei ddewis gan y cynhyrchwyr brwd o’r Unol Daleithiau i chwarae rôl yr Iesu.Cafodd wobrau o bwys ac adolygiadau’n ei ganmol i’r cymylau ac yn eu sgìl arweiniodd y cast yn y Roundhouse ac wedyn yn y West End am ddwy flynedd.
Ers hynny bu gan David Essex yrfa eithriadol, yn cyfuno cyngherddau, recordiau, theatr, cyfansoddi, ffilmiau a’r teledu, a mynd â hi’n ysgubol.Sgrifennodd, recordio a chynhyrchu albymau werthodd filiynau o gopïau drwy’r byd yn grwn.Bu ganddo hefyd dair sengl ar hugain yn y Deg ar Hugain Uchaf ym Mhrydain yn unig. Mae’r rhain yn cynnwys Rock On a enwebwyd am Grammy© oedd nid yn unig ar frig y siartiau ym Mhrydain ac yn yr Unol Daleithiau ond a werthodd dros filiwn o gopïau.Dilynodd senglau eraill megis Lamplight, Hold Me Close a Gonna Make You A Star a roes enw David ar enau pawb.Wedyn aeth hi’n llanast drwy hyd a lled gwledydd Prydain, a’r tyrfaoedd yn heidio i’w gyngherddau run fath â Beatlemania gynt a’r traffig yn stond lle bynnag yr ymddangosai.
Hyd heddiw mae David yn dal i gynhyrchu a sgrifennu albymau gan gynnwys Reflections o’r flwyddyn 2013 ac yn fwy diweddar ym mis Mehefin 2020 rhyddhaodd ei albwm stiwdio newydd Unplayed Hits drwy ei siop ar-lein yn unig. Mae’r record yn cynnwys deunaw trac sydd prin wedi’u chwarae nac yn fyw nac ar y radio ac mae ar gael ar CD ac i’w llwytho i lawr yn ddigidol.
Cyfrannodd David i’r llwyfan a’r sgrîn, er enghraifft Silver Dream Machine a godwyd o Silver Dream Racer, roedd yn serennu ynddi. Mae ei gredydau actio yn cynnwys hefyd That'll Be The Day, ei ddilyniant Stardust, Traveller, The Guvnors, Black Prince ac yn fwy diweddar EastEnders ar deledu’r BBC yn bennaeth y teulu Moon. Ymhlith ei gredydau theatr mae perfformiadau penigamp yn Evita, Boogie Nights 2, ELF!, Footloose, Aspects Of Love Andrew Lloyd Webber, ac at hynny ei ddramâu cerdd ei hun Mutiny! ac All The Fun Of The Fair.
Mae David hefyd wedi sgrifennu blodeugerdd werthodd fel slecs Travelling Tinker Man & Other Rhymes a dau hunangofiant llwyddiannus A Charmed Life ac Over The Moon, yr olaf yn un o bennaf Werthwyr Gorau’r Sunday Times.
David Essex ydi’r unig artist yn y byd i fynd â hi ym mhob maes ym myd adloniant ac mae’n dal i chwalu terfynau â’i ddawn ddihafal. Bydd pob tocyn gwreiddiol yn dal i fod yn ddilys i’r oedau newydd yng ngwledydd Prydain yn 2022.
"Mae'r band a minnau’n siomedig i roi gwybod i chi bod taith mis Medi 2021 wedi ei gohirio tan y flwyddyn nesaf.
Rydym am allu cynnal y sioe orau posibl a rhoi'r profiad gorau posibl i chi.
Ar ôl llawer o ystyriaeth roeddem yn teimlo mai'r ffordd orau o wneud hyn oedd drwy symud y daith i'r flwyddyn nesaf. Gobeithiwn y byddwch yn deall.
Cadwch yn ddiogel ac mewn iechyd da ac fe'ch gwelaf y flwyddyn nesaf. David.x."
Bwciwch Nawr