Big Girls Don't Cry

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Camwch yn ôl mewn amser, i oes rhamant. Pan oedd gwŷr bonheddig yn wŷr bonheddig a llefrod yn llefrod! 

Dewch i glywed seiniau eiconig Frankie Valli a’r Four Seasons yn cael eu hail-greu’n ddilys gan chwip o gast a band byw.

Yn ystod y chwe degau a’r saith degau, yn sgìl yr hits rhif un Sherry, December 1963 (Oh What a Night), Walk Like a Man, Rag Doll a Big Girls Don’t Cry cipiwyd y Four Seasons a Frankie Valli i’r entrychion. 

Ar ôl gwerthu can miliwn anhygoel o recordiau drwy’r byd yn grwn, mae yna gân gan y Four Seasons ac iddi le arbennig yng nghalon pawb. Mae’r sioe yma, sy’n fawr ei chlod drwy’r gwledydd, yn adfywio’n ddilys gytgordiau nefolaidd goreuon New Jersey.  

Mae’n rhoi stondin i falsetti anhygoel Frankie, ac yn cynnwys ei hits solo fel Grease, Let’s Hang On, Working My Way Back to You, Beggin’, I’ve Got You Under My Skin, a Who Loves You. 

Sioe deyrnged ydi hon, heb gysylltiad o gwbl ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau/cwmnïau rheoli na sioeau tebyg. 

Ceidw’r hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen.

 
 Pris Safonol £29
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £2 yn llai
 Grwpiau  1 ym mhob 10 am ddim

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr