Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Yn dathlu cerddoriaeth Frankie Valli a’r Four Seasons
Dydd Mercher 25 Mai 2022, 7.30pm
**AD-DREFNU SIOE | DYDDIAD NEWYDD 25.05.2022**
Oherwydd yr ansicrwydd parhaus ac wedi trafod gyda'r hyrwyddwr, dyma roi gwybod bod y gyngerdd Big Girls Don't Cry ddydd Sul 7 Mehefin 2020, ddydd Llun 28 Medi 2020 a dydd Gwener 4 Mehefin 2021, wedi'i gohirio tan ddydd Mercher 25 Mai 2022.
Gallwch ddefnyddio eich tocynnau presennol i fynd i’r sioe ar y dyddiad hwnnw. Gobeithiwn y gallwch ddod ar y dyddiad newydd.
Camwch yn ôl mewn amser, i oes rhamant. Pan oedd gwŷr bonheddig yn wŷr bonheddig a llefrod yn llefrod!
Dewch i glywed seiniau eiconig Frankie Valli a’r Four Seasons yn cael eu hail-greu’n ddilys gan chwip o gast a band byw.
Yn ystod y chwe degau a’r saith degau, yn sgìl yr hits rhif un Sherry, December 1963 (Oh What a Night), Walk Like a Man, Rag Doll a Big Girls Don’t Cry cipiwyd y Four Seasons a Frankie Valli i’r entrychion.
Ar ôl gwerthu can miliwn anhygoel o recordiau drwy’r byd yn grwn, mae yna gân gan y Four Seasons ac iddi le arbennig yng nghalon pawb. Mae’r sioe yma, sy’n fawr ei chlod drwy’r gwledydd, yn adfywio’n ddilys gytgordiau nefolaidd goreuon New Jersey.
Mae’n rhoi stondin i falsetti anhygoel Frankie, ac yn cynnwys ei hits solo fel Grease, Let’s Hang On, Working My Way Back to You, Beggin’, I’ve Got You Under My Skin, a Who Loves You.
Sioe deyrnged ydi hon, heb gysylltiad o gwbl ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau/cwmnïau rheoli na sioeau tebyg.
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £2 yn llai
Grwpiau(ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): 1 ym mhob 10 am ddim
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.