Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 8 Chwefror 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Barry Steele a’i Ffrindiau yn The Roy Orbison Story - AILDREFNU
Dydd Gwener 10 Medi 2021, 7.30pm
**AD-DREFNU SIOE | DYDDIAD NEWYDD 10.09.2021 **
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Barry Steele a’i Ffrindiau yn The Roy Orbison Story nos Iau 4 Mehefin 2020, 7.30pm wedi’i ohirio tan nos Gwener 10 Medi 2021 7.30pm, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Barry Steele a’i Ffrindiau yn The Roy Orbison Story - AILDREFNU
Yn dilyn ei Début yn y West End yn yr Adelphi Theatre, mae’r artist dihafal Barry Steele yn barod i roi’r roc yn ôl yn ‘Yr O Fawr’ ac yntau’n dod i’r llwyfan i goffáu’r chwedl yma yng Ngwedd Arbennig y West End ar ‘The Roy Orbison Story’, felly hwyliwch i gael noson noson sy’n codi’r galon, o athrylith cyfoes yr wyth degau a Barry Steele a chast o gerddorion a chantorion yn dathlu ac yn coffáu treftadaeth gerddorol Roy Orbison a llawer o’i ffrindiau.
Daw’r chwip o bianydd gwadd Boogie Williams yn gwmni i Barry ar lwyfan a bydd y cynhyrchiad yn cyflwyno deunydd gwreiddiol a sgrifennodd Roy Orbison ond na chanodd erioed mohono ac yn rhoi stondin i elfennau o’r offeryniaeth symffonig a glywyd gyntaf ar yr albymau a ryddhawyd yn ddiweddar.
Mae’r sleifar o gynhyrchiad yma hefyd yn cynnwys hits aeth â hi’n sgubol yn y siartiau a berfformiwyd yn wreiddiol gan Procol Harum, ELO, Tom Petty, Chris Isaak, a KD Lang ac yn cyrraedd ei benllanw mewn clod disglair i’ch llorio, a’r cast i gyd yn dod at ei gilydd i dalu teyrned i’r arch-grŵp gwreiddiol ‘The Traveling Wilburys’.
O’r rhaglen deledu arbennig Black and White Night hyd at The Traveling Wilburys, mae i’r y sioe yma naws go iawn yr wyth degau ac mae yma rywbeth i bawb!
Bu Barry Steele yn syfrdanu cynulleidfaoedd â’i ddawn ryfedd ail-greu doniau lleisiol y chwedl Roy Orbison, ac adolygiadau’n ei ganmol i’r cymylau drwy’r byd yn grwn. Mae ei ddoniau lleisiol, heb flewyn ar dafod, yn ‘Ddisgriflun Disglair Does Dim Dau’.
Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.