Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Anything for Love

Yn dilyn ei daith yn 2022 a werthodd bob tocyn, mae’r artist recordio mawr ei glod sydd ar y brig, Steve Steinman, yn dod â’i gynhyrchiad newydd sbon danlli grai atoch chi, yn cynnwys dros bump ar hugain o hits mwyaf Meat Loaf a Jim Steinman.  Ers dros ddeng mlynedd ar hugain mae Steve yn teithio’r byd ac i’w ganlyn ei deyrnged gerddorol i Jim Steinman a Meat Loaf.

Mae yma set lwyfan anhygoel, band deg darn ynghyd â synnwyr digrifwch a phresenoldeb llwyfan cyfarwydd Steve… a’r gair yn anad yr un i ddisgrifio’r sioe ydi aruthrol.

Bydd y sioe’n cael gennych godi ar eich traed i ddawnsio a morio canu rhai o hits mwyaf Meat Loaf gan gynnwys – Anything For Love – Bat Out of Hell – Paradise By The Dashboard Light - Took The Words Right Out of My Mouth – Two Out of Three Ain’t Bad – Dead Ringer For Love – Total Eclipse Of The Heart a llond gwlad at hynny.

 
  • Pris Safonol: £35.50
  • Archebion Grŵp: 1 ym mhob 10 am ddim

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr