Anastacia
I’m Outta Lockdown - yr 22ain Pen-blwydd
Dydd Sul 6 Tachwedd 2022, 7.30pm
Drysau yn agor am 7pm
Mae’r eicon pop Anastacia wedi cyhoeddi ei thaith ‘I’m Outta Lockdown – The 22nd Anniversary’ yn Ewrop.Mae’r gwerthiannau cynnar yn cychwyn 24ain Tachwedd, gwerthiannau i’r cyhoedd 26ain Tachwedd am ddeg o’r gloch drwy LiveNation.co.uk.Yn cychwyn yn y Swistir, mae’r daith enfawr yn Ewrop yn rhoi tro am Rufain, Berlin ac Oslo, cyn ei chychwyn hi’n ôl i wledydd Prydain ar hegl fydd yn cynnwys oed anferthol yn Hammersmith Eventim Apollo Llundain.
Mae’r môr o lais y tu ôl i hits ysgubol yn cynnwys y caneuon lluos-blatinwm ‘I’m Outta Love’ a ‘Left Outside Alone’, sef Anastacia, yn un o leisiau mwyaf adnabyddadwy ein hoes.Dyma daith gyntaf Anastacia ers 2018 i gefnogi ei seithfed albwm stiwdio ‘Evolution’, sef ei chweched albwm i gyrraedd Deg Uchaf gwledydd Prydain. Ym mis Hydref 2021, cymrodd Anastacia ran yn The Masked Singer Awstralia ac ennill.Hyd yn hyn mae Anastacia wedi gwerthu dros ddeng miliwn ar hugain o recordiau drwy’r byd yn grwn.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.