A Vision of Elvis
Dydd Sadwrn 7 Ionawr 2023, 7.30pm
Bwciwch NawrSbloets Arobryn Elvis Presley
Rhowch eich sgidiau swêd glas am eich traed a dod i ddathlu cerddoriaeth Brenin Roc a Rôl yng nghwmni Elvis gorau oll gwledydd Prydain – Rob Kingsley – a’i gast dawnus. Dyma ail-greu’n syfrdanol un o gyngherddau byw Elvis Presley sy’n mynd â chi ar daith glyweled aruthrol drwy amser fel na welsoch chi yn eich byw.
Yn cynnwys yr hits Stuck on You - It's Now or Never - Return to Sender - GI Blues - Suspicious Minds - The Wonder Of You - American Trilogy a llond gwlad at hynny.
Mae Rob yn meithrin perthynas â’r gynulleidfa ar ei ben – cyn gynted ag y cychwynna’r sioe gewch chi’ch cipio ar reid colli colla’r teimladau, a’r gynulleidfa’n cael ei dwyn i mewn i sbloets gerddorol sy’n Elvis o waed coch cyfan!
Mae’r sioe wedi’i Chymeradwyo’n Swyddogol gan Elvis Presley Enterprises (EPE) ar gyfer cyfraniadau elusennol ac wedi’i Chymeradwyo’n Swyddogol gan Mr Ed Bonja – Tynnwr Lluniau a Rheolwr Ffordd Elvis (1970-1977) a ddywedodd: “On stage Rob Kingsley looks extraordinarily like Elvis. He sings like Elvis, but most importantly, he seems to capture the very soul of Elvis – his charisma, his gestures – hell, he even walks like Elvis!”
Perfformiodd A Vision of Elvis i filoedd o selogion mewn pennaf theatrau, gwyliau ac arenâu drwy’r byd yn grwn a chreu hanes drwy fod yr artist teyrnged i Elvis cyntaf i berfformio yn y New Wembley Stadium i dros hanner can mil o bobl.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.