A Country Night in Nashville
Dydd Sadwrn 11 Mehefin 2022, 7.30pm
Bwciwch NawrYn syth o’r Royal Albert Hall, mae A Country Night In Nashville yn ail-greu golygfa honci-tonc llawn mynd yng nghanol tref Nashville, yn dal i’r dim egni ac awyrgylch noson yng nghartref canu gwlad a gwerin.
Gewch chi ddisgwyl cael eich cipio ar daith gerddorol drwy hanes Canu Gwlad a Gwerin, yn cynnwys caneuon gan ei sêr mwyaf a fu ac sydd. Bydd hits gan y cewri - o Johnny Cash hyd at Alan Jackson, Dolly hyd at y Chicks, Willie Nelson hyd at Kacey Musgraves - yn cael stondin gan Dominic Halpin and the Hurricanes.
Ymhlith y caneuon mae Ring Of Fire, Crazy, Follow Your Arrow, It’s Five O’Clock Somewhere, Need You Now, 9-5, a The Gambler ag enwi ond dyrnaid ac mae’r noson anhygoel yma sy’n dathlu canu gwlad a gwerin yn rhy dda i’w cholli.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.