Prom Tidli - Buarth Cerddorol Hudol Bert
Dydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2022 - Dydd Sadwrn 16 Gorffennaf 2022
Bwciwch NawrMae’n ddiwrnod prysur ar fferm Bert a llawer o waith i’w wneud. Ond ‘Oho’, mae’r glaw yn tywallt ac mae’r tractor yn sownd mewn ffos fwdlyd. Hyd yn oed gyda’i holl ffrindiau yn helpu ni all Bert dynnu’r tractor allan o’r twll llithrig. Efallai y gallwch chi a hud cerddoriaeth fyw eu helpu nhw?
Mae Buarth Cerddorol Hudol Bert yn gyngerdd rhyngweithiol, hygyrch ar gyfer plant dan 5 oed. Cyfle i blant a’r oedolion sy’n dod gyda nhw i fwynhau cerddoriaeth fyw.
Wedi ei gynhyrchu gan Arts Active, mae’r PromTidli yn brofiad cerddorol llawn mwynhad i blant bach a’r oedolion sy’n dod gyda nhw, gyda’r Clarinet, Basn a Fiola yn serennu yn y cynhyrchiad hwn gyda chaneuon gwirion, hud
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.