Prom Jazz
Cerddorfa Jazz y Brifddinas Gyda lleisydd gwadd arbennig Joe Stilgoe
Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022, 7.30pm
Bwciwch NawrCerddorfa Jazz y Brifddinas
Gyda lleisydd gwadd arbennig Joe Stilgoe
Mae Cerddorfa Jazz Y Brifddinas yn dychwelyd i Proms Cymru gyda dawn lleisiol arbennig iawn Joe Stilgoe.
Ffurfiwyd y band yn wreiddiol yn 2007 gan ddod â thalentau cerddorol gorau’r Ddinas at ei gilydd. Maent yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn gweithio’n rheolaidd gydag artisitaid jazz gwych, ac yn ymddangos yng Ngŵyliau Jazz Rhyngwladol Aberhonddu ac Abertawe a pherfformio’n rheolaidd yn Proms Cymru.
Eleni mae’r canwr, pianydd ac ysgrifennwr caneuon amryddawn, Joe Stilgoe yn ymuno â nhw. Mae e’n ddiddanwr cyfoes i bawb ac wedi teithio’r byd gyda’i fand ac fel unawdydd, gan ymddangos ymhobman o Ronnie Scotts i Birdland gyda phob gŵyl a chlwb jazz yn y cyfamser.
Bydd Joe yn perfformio traciau o’i albwm diweddaraf ‘Theatre’ ynghyd â chlasuron o repertoire y Bandiau Mawr.
“Musical Virtuoso” ....The Independent
“He grows in stature all the time” ***** The Sunday Times
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.