Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.
Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni. Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.
“The Unthanks are capable of such beauty that sometimes I can hardly bear to listen to them.”Martin Freeman “There are few times when you discover a band and they stalk immediately to the heart of everything you love and hold dear.”Maxine Peake “They run from the very root of folk music to the very tip of the branch.” Elvis Costello “It’s quite a rare thing now. They’ve really got everything you could want from music. And I’m very fussy.”Robert Wyatt
Dyma’r Unthanks yn ailgydio mewn teithio byw ar ôl dwy flynedd heb hel eu pac, yn rhoi stondin i’w halbwm newydd sydd ar ddod,Sorrows Away,ochr yn ochr â ffefrynnau fel Magpie,The King Of Romea Mount The Air.
Ers rhyddhau Albwm Gwerin y Flwyddyn y BBC, Mount The Air yn 2015, mae’r Unthanks wedi dringo i uchelfannau symffonig gyda Charles Hazelwood a’r BBC Proms,a dinoethi i ganu digyfeiliant bore’u hoes, yn Diversions Vol 5. Maen nhw wedi sgrifennu chwe thrac sain bwgan brain i addasiad hyfryd Mackenzie Crook o Worzel Gummidge, ar yr un pryd â chael amser i ddehongli gwaithawduron o ferched yn cynnwys Emily Bronte,Molly Drakea Maxine Peake.Ond, ar wahân i brosiectau a phethau eraill yn tynnu’r sylw,SorrowsAwayydi dilyniant MountTheAir y bu mawr aros amdano,ac fel mae’rteitl yn awgrymu mae’n addo bod yngorwynt canu’r felanac yn gam i’r goleuni i fandsy’n enwocach ar gorn ei brudd-deracwel,gofid y teitl!
Yn gnewyllyn uned sy’n bythol newid ceir magwraeth draddodiadol y chwiorydd o lannau afon Tyne, Rachel a Becky Unthank, a threfniannau a sgrifennu’r cyfansoddwr, y pianydd a’r cynhyrchydd o swydd Efrog, Adrian McNally. Mae disgrifiadau’r Unthanks yn amrywio o “music that asks you to consider everything you know and un-think it” hyd at “a take on tradition that flips so effortlessly between jazz, classical, ambient and post-rock, it makes any attempt to put a label on them a waste of time”.
Gan ddefnyddio cerddoriaeth draddodiadol gogledd-ddwyrain Lloegr yn fan cychwyn, mae dylanwad Miles Davis, Steve Reich, Sufjan Stevens, Robert Wyatt, Antony & The Johnsons, King Crimson a Tom Waits i’w glywed ym mhedair record ar ddeg y band hyd yma, a enillodd iddyn nhw enwebiad Gwobr Gerdd Mercury a chlod drwy’r gwledydd ar hyd y ffordd.
Yn bur gyffredin ac yn serchus gelwir canu gwerin yn ddiwylliant isel, ond mae’r Unthanks â’u bryd ar brofi bod yr harddwch a’r gwirionedd sydd yn hanes llafar y bobl yn bopeth ond cyffredin.Mae eu cyrchddull adrodd straeon yn gwneud yn gymheiriaid rhwydd draddodiad ac antur, sylwebaeth gymdeithasol uniongyrchol a chytgord soffistigedig, cyd-ddirnad torcalonnus a lleiafsymiaeth iasoer, a enillodd iddyn nhw fyddin o edmygwyr, yn awduron ac yn berfformwyr, yn cynnwys Mackenzie Crook, Maxine Peake, Nick Hornby, Martin Freeman, Elvis Costello, Robert Wyatt, Rosanne Cash, Dawn French, Adrian Edmondson, Stephen Mangan, Colin Firth, Martin Hayes ac aelodau o Portishead a Radiohead.
“Few of their contemporaries, within both folk music and the wider artistic spectrum, have such a keenly-honed ability to locate in a song the emotional essence that can, in just a single phrase or vocal elision, cut one to the quick.”The Independent
“The Unthanks have covered a lot of ground in the past decade and watching them evolve over this period has been truly inspiring.”Phillip Selway (Radiohead)
“The honest and heartfelt way in which they deliver their music is a true inspiration to me.”Martin Hayes
“It hits you in your soul rather than your head. I love them.”Adrian Edmondson
“If there was such a thing still as having a favourite band like in the old days, I’d say they were my favourite band.”Paul Morley
Cyfeillion Neuadd Deri Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Poblano anabolic ag un cydymaith: £2.00 oddi with bob tocyn
Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): 2 gredyd
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.