Prom Tidli: Buarth Cerddorol Hudol Bert

  • Lefel 1
 

Mae’n ddiwrnod prysur ar fferm Bert a llawer o waith i’w wneud ….ond ‘Oho’, mae’r glaw yn tywallt ac mae’r tractor yn sownd mewn ffos fwdllyd. Hyd yn oed gyda’i holl ffrindiau yn helpu ni all Bert dynnu’r tractor allan o’r twll llithrig. Efallai y gallwch chi a hud cerddoriaeth fyw eu helpu nhw?

Mae Buarth Cerddorol Hudol Bert yn gyngerdd rhyngweithiol, hygyrch ar gyfer plant dan 5 oed. Cyfle i blant a’r oedolion sy’n dod gyda nhw i fwynhau cerddoriaeth fyw.

Wedi ei gynhyrchu gan Arts Active, mae’r PromTidli yn brofiad cerddorol llawn mwynhad i blant bach a’r oedolion sy’n dod gyda nhw, gyda’r Clarinet, Basŵn a Fiola yn serenu yn y cynhyrchiad hwn gyda chaneuon gwirion, hud a storïau yn cael eu hadrodd gan y poblogaidd Bert a Cherry.

 
 Pris Safonol £8

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr