Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Verdi: Aida

Yn ddehongliad ysblennydd newydd yr opera glasurol Aida,
cynhyrchiad arobryn Ellen Kent dan adain Opera International 
yn rhoi llwyfan i Opera’r Wcráin a Theatr Bale Kyiv,
gydag unawdwyr rhyngwladol, corws mawr ei glod a cherddorfa lawn


Daw Aida, y fwyaf mawreddog o blith holl operâu Ellen Kent, yn ôl i wledydd Prydain mewn cynhyrchiad traddodiadol newydd trawiadol, ac iddo set aruthrol o law Set-Up Scenery yng ngwledydd Prydain, a luniodd hefyd setiau i’r Royal Opera Covent Garden.

Yn Aida, cawn ysblander yr Aifft ar yr un pryd â mawredd y Colosseo yn Rhufain a chyfarwyddo Ellen Kent dan ddylanwad dramâu Ewripides yn hen wlad Groeg yn symboleiddio gafael grefyddol gref offeiriaid yr Aifft.

Dyma stori athrist rhyfel, cenfigen a dialedd ac wrth ei chraidd gariad dan dynged y gaethferch hardd o Ethiopia, Aida, a’r arwr o’r Aifft, Radames, yn fyw o’n blaenau mewn cynhyrchiad ac iddo’n gerddoriaeth un o’r darnau mwyaf a sgrifennodd Verdi erioed, yn cynnwys yr ariâu adnabyddus “Celeste Aida”, “Ritorna Vincitor” a’r clasur “Triumphal March” lle cawn ddawns deml, rhaeadrau o aur pefriol a pherfformwyr tân anhygoel.

Fe’i canir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg.

Visually and vocally gripping from start to finish”
The Independent

Bursting with colour, grandeur and wealth
Edinburgh Evening News

Aida has one of the most imposing sets you will see on an operatic stage”   
Manchester Evening News

 
  • Pris Safonol: £20.00 | £24.00 | £28.50 | £32.00 | £37.00
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant ac Clwb Ellen Caint: £5.00 oddi ar y tri phrisiau uchaf
  • Dan 16 oed | Myfyrwyr | Hawlwyr | Poblano anabolic ag un cydymaith: Hanner pris
  • Dros 60: £2.00 yn llai
  • Archebu lle i'r ddwy opera: gostyngiad o 20%
  • Cynnig Cynnar i'r Felin: £5.00 oddi ar y 2 bris uchaf os archebwch ar neu cyn 30 Medi 2022.
  • Grwwpiau 10-19 ( Ffoniwch y Swyddfa Docynnau Ar 02920 878444): £1.00 oddi with bob tocyn 
  • Grwwpiau 20+ ( Ffoniwch y Swyddfa Docynnau Ar 02920 878444): £2.00 oddi with bob tocyn 

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr