Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Puccini: Madama Butterfly

Senbla yn cyflwyno Cynhyrchiad arobryn Ellen Kent dan adain
Opera International
yn rhoi llwyfan i Opera’r Wcráin a Theatr Bale Kyiv,
gydag unawdwyr rhyngwladol, corws mawr ei glod a cherddorfa lawn

 

Yn ei hôl o fawr alw amdani gan y bobl, dyma’r Opera arobryn drachefn mewn cynhyrchiad newydd gyda setiau odiaeth yn cynnwys gardd Japaneaidd ddigon o ryfeddod a gwisgoedd gwych yn cynnwys cimonos priodas hynafol o Japan. 

A hithau’n un o operâu mwyaf poblogaidd y byd, mae Madama Butterfly Puccini yn adrodd stori dorcalonnus y Japanead ifanc hardd sy’n syrthio mewn cariad â lefftenant yn llynges America– a’r canlyniadau dramatig. 

Ymhlith yr uchelfannau mae’r ‘Humming Chorus’ melodaidd, yr aria wefreiddiol ‘One Fine Day’ a’r gân fythgofiadwy ‘Love Duet’.

Fe’i canir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg

Cofiwch fod gan rai seddi olwg gyfyngedig ar yr uwchdeitlau. Cofiwch holi pan fyddwch chi’n codi tocynnau. Mae’r wybodaeth i gyd yn gywir ar adeg ei rhyddhau. 

 

ENILLYDD ‘GWOBR YR OPERA ORAU’
Gwobrau Theatr y Liverpool Daily Post

“Above all it was a production which captured the raw emotion at the centre of the opera. Don’t take a handkerchief with you, take a box of them.”
The Independent

 
  • Pris Safonol: £20.00 | £24.00 | £28.50 | £32.00 | £37.00
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant ac Clwb Ellen Caint: £5.00 oddi ar y tri phrisiau uchaf
  • Dan 16 oed | Myfyrwyr | Hawlwyr | Poblano anabolic ag un cydymaith: Hanner pris
  • Dros 60: £2.00 yn llai
  • Archebu lle i'r ddwy opera: gostyngiad o 20%
  • Cynnig Cynnar i'r Felin: £5.00 oddi ar y 2 bris uchaf os archebwch ar neu cyn 30 Medi 2022.
  • Grwwpiau 10-19 ( Ffoniwch y Swyddfa Docynnau Ar 02920 878444): £1.00 oddi with bob tocyn 
  • Grwwpiau 20+ ( Ffoniwch y Swyddfa Docynnau Ar 02920 878444): £2.00 oddi with bob tocyn 

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr