Puccini: LA BOHÈME

Yn serennu Elena Dee y soprano o Gorea yn ei rôl eiconig, Mimi, a’r soprano ryngwladol enwog Alyona Kistenyova.

Dan gyfarwyddyd Ellen Kent, mae’r cynhyrchiad newydd sbon danlli grai yma wedi’i lwyfannu’n draddodiadol ac mae’n cynnwys setiau a gwisgoedd hardd.

Mae La Bohème yn un o’r operâu mwyaf rhamantaidd a sgrifennwyd erioed. Mae’n adrodd hanes athrist Mimi, yn llawn diciâu a dan farn, a’i chariad tuag at awdur heb ddimai goch y delyn.

Mae’r set yn ddrych o gelfyddyd Fohemaidd y cyfnod a bydd yn cynnwys band pres, effeithiau eira a bydd ci Muzetta yntau’n dod i’r llwyfan.

Yn yr hanes clasurol yma - stori cariad a cholled ym Mharis - cawn ariâu enwog fyrdd gan gynnwys Your Tiny Hand is FrozenThey Call Me Mimi a Muzetta’s Waltz.

Yn cynnwys cerddorfa fyw.

Canir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg
*Gallai’r Cast Newid

 
 Pris Safonol £19 | £23 | £27.50 | £31 | £36
 Dan 16 oed | Pobl anabl ynghyd ag un cydymaith | Myfyrwyr | Hawlwyr Hanner Pris
 Dros 60 £2 yn llai
 Cyfeillion Clwb Ellen Kent | Cyfeillion Neuadd Dewi Sant

Gostyngiad o £5 y tocyn oddi ar y 3 phris uchaf

 Grwpiau 10-19 (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £1 oddi wrth bob tocyn
 Grwpiau o 20 neu fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £2 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr