Rydym yn defnyddio briwsion

Rydym wrth ein boddau o gyhoeddi bod ein Swyddfa Docynnau yn ailagor i’r cyhoedd o ddydd Mercher 26 Ionawr 2022 allan, o hanner awr wedi naw tan bump o’r gloch, pan fyddwn yn dychwelyd at ein rhif arferol, sef 029 2087 8444. 

A chyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn codi o ddydd Gwener 26 Ionawr 2022 allan, ein sioe gyntaf pan ddown yn ein holau fydd Luther am hanner awr wedi saith y noson honno. 

Diolch o galon i chi am ddal i fod yn gefn i ni ac am eich amynedd dros yr ychydig wythnosau aeth heibio.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Bellowhead

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

BELLOWHEAD YN ADUNO AR DAITH TACHWEDD 2022

I DDATHLU DENGMLWYDDIANT BROADSIDE

“One of the country’s greatest live outfits” Daily Mirror 
"Nobody does it betterMojo

Yn ystod y clo yn 2020 daeth un aelod ar ddeg Bellowhead at ei gilydd gyntaf ar lein i recordio o bell ‘New York Girls - At Home’.Yn sgil hynny daeth aduno cig a gwaed i roi perfformiad untro a ffrydiwyd i nodi blwyddiant Hedonism.Gwyliodd miloedd o selogion y cyngerdd (un o ffrydiau ar lein mwyaf 2020) gyda chadarnhau bod Bellowhead yn dal i fod yn un o actau gwerin mwyaf, a’r mwyaf o alw amdani, ym myd canu gwerin gwledydd Prydain serch eu bod heb berfformio ers agos i bum mlynedd.

Ar ôl y ffrwd crefodd y selogion am fwy a bellach mae’r sêr yn rheng a dônt at ei gilydd ar daith enfawr yng ngwledydd Prydain ym mis Tachwedd 2022 i ddathlu dengmlwyddiant eu pedwerydd albwm Broadside!

Meddai’r band, “The reaction to the online concert was overwhelming and we really did enjoy playing together again.The 10th anniversary of Broadside presented an opportunity for us to take things one step further and get back out on the road. We couldn’t say no!It’s going to be lots of fun – hope you’ll join us for the party.”

Yn 2012 y rhyddhawyd Broadside a gynhyrchwyd gan John Leckie.Rhoes i’r band ei albwm cyntaf yn yr Ugain Uchaf yn Siartiau Albymau Swyddogol Gwledydd Prydain ac mae’n cynnwys deuddeg cân, yn eu plith y senglau ar restrau chwarae BBC Radio 2 ‘Roll the Woodpile Down’ a ‘10,000 Miles Away’.

Sam Sweeney gyda’i fand fydd yn cefnogi ar yr oedau i gyd.Mae Sam yn un o hen lofiau’r Bellowhead aruthrol ac yn gyn-gyfarwyddwr artistig yr Ensemble Ieuenctid Gwerin Cenedlaethol.Yn ddiweddar rhyddhaodd ei ail albwm solo Unearth Repeat.

Yn 2004 yr ymffurfiodd Bellowhead ac ar ôl deuddeng mlynedd aruthrol rhoi’r ffidil yn y to yn 2016. Yn ystod eu blynyddoedd gweithgar chwaraesant i filoedd o bobl mewn gwyliau ac ar daith, recordio pum albwm stiwdio (gyda gwerthu dros chwarter miliwn o gopïau), derbyn yn fawr eu balchder ddwy ddisg arian ac ennill – choeliech chi fawr – wyth o Wobrau Gwerin BBC Radio 2.Does dim dwywaith na fydd eu selogion ar ben eu digon o glywed y newydd – un o fandiau byw mwyaf cyffrous, gorawenus a disglair y blaned ar fin aduno ar daith untro arbennig yn hydref 2022.

 
  • Pris safonol: £28.00 | £35.50 | £42.50

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr