Lady Maisery
Gwando'r Gwreiddiau
Dydd Mawrth 1 Mehefin 2021, 8.00pm
Nodwch mai yn 2021 y cynhelir y digwyddiad hwn.
Bwciwch NawrYn sîn canu gwerin Lloegr, sy’n heigio gan gerddoriaeth feiddgar ac arloesol ar hyn o bryd, mae Lady
Maisery yn disgleirio’n loyw. Yn 2016, meddai The Guardian fod yn eu gwaith cytgord: “some of them most exquisite, thrilling vocal harmony work in the English folk scene”. Mae eu cyrchddull canu cytgord heb ei debyg, eu trefniannau yn y repertoire traddodiadol ac mewn cyfansoddiadau gwreiddiol yn ddeallus ac yn feddylgar, a’r aml-offerynwyr a’r canwyr Hazel Askew, Hannah James a Rowan Rheingans yn harneisio ac yn dathlu eu llais ar y cyd. Pa un a ydyn nhw’n dwyn i’r golwg dro ffeministaidd cudd yng nghynffon stori draddodiadol, yn traddodi baled ddwysbigol yn erbyn rhyfel, neu’n rhoi stondin i’w doniau aml-offerynnol aruthrol mewn cyfansoddiadau gwreiddiol sy’n tynnu ar ddylanwadau rhif y gwlith, mae Lady Maisery yn chwilio’n ddeheuig rym, harddwch a bywiogrwydd cân. Dros y pum mlynedd aeth heibio, teithiodd y triawd yn eang, yn perfformio sioeau i dai dan eu sang drwy hyd a lled gwledydd Prydain ac Ewrop a rhyddhau tri albwm mawr eu clod gan y beirniaid.
“Ambitious and beautiful” - Mark Radcliffe, BBC Radio 2
“Some of the most exquisite, thrilling vocal harmony work in the English folk scene-an
impressive blend of ease and sophistication.”- Them Guardian
https://www.ladymaisery.com/ | https://www.facebook.com/LadyMaisery/|
https://twitter.com/LadyMaisery | https://www.youtube.com/user/LadyMaiseryFolk
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.