Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Hot Club of Cowtown

  • Lolfa Lefel 3
  • Yn rhan o dymor
 

Ers ei ddechreuadau ar ddiwedd y 1990au, mae seren Hot Club of Cowtown wedi parhau i godi yn y ffurfafen wrth i enw da’r band am eu sioeau byw a’u gallu cerddorol penigamp ddod yn rhan o frand byd-eang y band. Wedi'u canmol  am eu "halawon o adref a'r gwaith byrfyfyr bywiog" (The Times, Llundain), mae'r Hot Club wastad wedi plethu ynghyd gyfuniad o arddulliau sy'n ymddangos yn wahanol gan greu ei effaith hudolus ei hun, gan osod y band “ar  y groesffordd honno lle mae  canu gwlad a jazz yn cwrdd i erlid y blŵs ymaith”  (The Independent), gan barhau yn "ymwybodol bob amser uwchlaw popeth, fod y gerddoriaeth ar gyfer dawnsio ac i gael amser da hen ffasiwn" (New York Times). Mae alcemi cerddorol y band wedi'i ddisgrifio fel "taith arall â’ch gwynt yn eich dwrn yn y tardis o Texas" (The Times, Llundain), tra bod American Songwriter yn nodi y gallai “tri cherddor rhagorol y band hwn fod yn gwneud unrhyw beth ond iddynt ddewis anrhydeddu mawrion y byd jazz a swing gyda'u sain. " Mae’r Belfast Telegraph yn galw’r Hot Club of Cowtown yn "triawd gwlad eithaf perffaith ar frig eu gêm," a'r New York Times, mewn adolygiad byw yn disgrifio’r triawd fel eu bod wedi eu harfogi â "llond cwpwrdd gynnau o dechneg a llawenydd."

Logo Gwando'r Gwreiddiau

Gwrando’r Gwreiddiau logo peint o gwrw £4

 
  • Prisiau ymlaen law: £21
  • Prisiau Ar y diwrnod: £22
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Poblano anabolic ag un cydymaith: £2.00 oddi with bob tocyn
  • Grwwpiau o 10 neu’n fwy ( Ffoniwch y Swyddfa Docynnau Ar 02920 878444): £1.00 oddi with bob tocyn 

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
Bwciwch Nawr
 

Mae’r Hot Club of Cowtown wedi teithio'n helaeth dros y byd ers dros ugain mlynedd, ar eu pennau eu hunain a chydag artistiaid gan gynnwys Bob Dylan, Willie Nelson, Gatemouth Brown, yr Avett Brothers, Dan Hicks, Bryan Ferry, Roxy Music, Squirrell Nut Zippers, y Mavericks, y Dustbowl Revival, ac eraill. Mae uchafbwyntiau gwyliau/gyrfa yn cynnwys y gyfres Menywod mewn Jazz (rhan o Jazz yng Nghanolfan Lincoln), Gŵyl Werin Caergrawnt (DU), Gŵyl Glastonbury (DU), Gŵyl Fuji Rock (Japan), Byron Bay Blues & Roots Festival (AU), y National Folk Festival (US ac AU), y Stagecoach Festival, y Winnipeg Folk Festival (CA), Waiting for Waits Festival (SP), agoriad mawreddog y Country Music Hall of Fame and Museum yn Nashville, Tennessee, The Barns yn Wolf Trap, y Rochester Jazz Festival, y Strawberry Festival, yr Hardly Strictly Bluegrass Festival, teithio fel Llysgenhadon Cerddorol Adran Gwladwriaeth yr Unol Daleithiau i Azerbaijan, Armenia, Algeria, Gweriniaeth Georgia, a Swltaniaeth Oman, a chael ei anrhydeddu yn y Texas Western Swing Hall of Fame.