Fisherman's Friends
Taith y DU 'Datgloi a Rhyddhau' 2021
Dydd Iau 2 Rhagfyr 2021, 7.00pm
Drysau yn agor am 7pm
Tocynnau ar werth
Dydd Gwener 16 Hydref @ 10am
DRYSAU'N AGOR 7PM
Mae band bechgyn hynaf Prydain yn dod i’r fei o’r cyfnod clo ac yn hel ei bac, a’r Fisherman’s Friends – oed ar y cyd pedwar cant ac un (a thri chwarter) – yn cyhoeddi eu taith Unlocked & Unleashed yn 2021.
Diolch i’r ffilm fach a chanddi galon fawr o’r un enw, mae stori’r ‘band bwi’ o Gernyw’n adnabyddus drwy’r byd yn grwn – ynghlwm gan brofiad ar y cyd, ers deugain mlynedd maen nhw’n cyfarfod ar y Platt ar yr harbwr yn eu tref enedigol Port Isaac i ganu caneuon y môr.
“And now we can’t wait to show the rest of the country what they’ve been missing – singing live is in our blood, almost as much as the sea,” meddai Cleave, meistr y ddefod a’r dyn bas â’r mwstash mawr.
Yn serennu Daniel Mays, James Purefoy, Tuppence Middleton a Noel Clarke gydag ymddangosiadau cameo gan y grŵp y mae eu lleisiau hefyd i’w clywed ar y trac sain, enillodd Fisherman’s Friends $10 miliwn yn y swyddfa docynnau a gweld y bois yn perfformio yng ngŵyl ffilmiau Cannes 2019 yn ogystal â thaith eto yng ngwledydd Prydain a werthodd bob tocyn.
Eleni, er gwaethaf ymdrechion glew'r pandemig byd-eang, cadwodd y bois eu selogion yn ddiddig yn y cyfnod clo, yn postio caneuon a cherddi bob wythnos yn eu cyfres YouTube ‘Mares Tales & Mackerel Scales’.Fe chwaraeon nhw hefyd sioeau haf dan eu sang yn Minack Theatre eiconig Cernyw a pherfformio pan ddangoswyd y ffilm ym mhictiwrs awyr agored Wavelength yn Watergate Bay.
Y flwyddyn nesaf mae ffilmio’n cychwyn ar Fisherman’s Friends 2 a’r bois yn mynd yn eu holau i’r stiwdio i recordio albwm newydd, yn dilyn yr albwm trac sain ysgubol o lwyddiannus Keep Hauling sydd ymhell ar ei ffordd i werthiannau Aur.
Bellach Fisherman’s Friends ydi allforyn cerddorol enwocaf Cernyw. Ddeng mlynedd yn ôl y dechreuodd y stori pan ddarbwyllwyd nhw i lofnodi’r cytundeb recordio miliwn o bunnoedd a welodd eu halbwm Port Isaac’s Fisherman’s Friends yn cyrraedd Aur a hwythau’n dod yr act werin draddodiadol gyntaf erioed i gael albwm yn neg uchaf gwledydd Prydain.Ers hynny maen nhw wedi canu yn nathliadau Jiwbilî EM Frenhines Lloegr, chwarae yng ngŵyl Ynys Wydrin a chael eu hanrhydeddu â’r Wobr Traddodiad Da yng Ngwobrau Gwerin mawr eu bri BBC Radio 2.Fe fuon nhw hefyd yn destun rhaglen ddogfen ar ITV, rhyddhau’r albymau ysgubol o lwyddiannus One and All (2013), Proper Job (2015) a Sole Mates (2018) a dal i chwarae i ddegau o filoedd o selogion gartref a thramor.
Dyma’r Fisherman’s Friends: y pysgotwr cimychiaid Jeremy Brown, yr awdur a’r siopwr Jon Cleave, y tyddynnwr a’r peiriannydd John ‘Lefty’ Lethbridge, yr adeiladwr John McDonnell (brodor o Swydd Efrog roes dro am Port Isaac fwy na deng mlynedd ar hugain yn ôl ac yno y mae byth), y pysgotwr o Padstow Jason Nicholas, y gwneuthurwr ffilmiau Toby Lobb a’r bachgen newydd, y cyn-yrrwr ambiwlans Pete Hicks.
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.