Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Taith y Byd Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff

2022 Banff Mountain Film Festival Short Trailer - UK & Ireland Tour from Banff Film Festival UK Tour on Vimeo.

Cychwynnwch hi ar noson wefreiddiol o antur, sef casgliad newydd sbon danlli grai o ffilmiau byrion o’r ŵyl ffilmiau mynydd fwya’i bri yn y byd! 

Mae Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff yn ymuno â gwneuthurwyr ffilmiau antur a fforwyr gorau’r byd a hwythau’n eu gwthio’u hunain i’r eithaf yn nghyrion mwyaf pellennig a thrawiadol y byd.Gewch chi weld campau aruthrol grym dyn, heriau sy’n hwb i’r enaid a sinematograffeg sy’n ddigon i fynd â’ch gwynt chi – a’r cwbl ar y sgrîn fawr! 

Yn heigio gan egni a chyffro, ac anrhegion i’w hennill am ddim, dyma ddigwyddiad rhy dda i’w golli a does dim dwywaith na fydd yn tanio’ch brwdfrydedd chi dros antur, cynnwrf a theithio! 

Gweler rhagor o fanylion ar wefan Banff.  Rhaglen y Ffilmiau Goch ydi hon.

Arweiniad Oed a Argymhellir: 12A 
(caiff plant ddod yng nghwmni oedolyn)

Llun gan Christian Pondella.

 
  • Pris Safonol: £15.50
  • Seddi llinell weld golwg gyfyngedig: £11.50
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £1.50 oddi wrth bob tocyn
  • Grwpiau o 6 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444): £1.50 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr