A NORDIC SKATER
5 munud

Crefft sglefrio hirbell ar rew naturiol ydi sglefrio Nordig ac, ar ffiordydd a llynnoedd rhewedig cyfareddol Norwy, mae Per Sollerman wedi gweld ei waith. Roedd Per gynt yn selogyn chwaraeon antur, bellach mae’n defnyddio’i synhwyrau i gyd i deithio’n ddiogel dros y rhew a theimlo’n rhan o’r dirwedd. Portread hudolus o’r gwethgaredd go anhysbys yma.
RETURN TO EARTH (GWEDD DEITHIOL OLYGEDIG)
14 munud

Yn cyfuno reidio arwrol â chwestiynau mawr bywyd, sêr Return to Earth ydi mabolgampwyr mwyaf beicio mynydd, doniau di-glod ac ieuenctid addawol yn cythru ar hyd llwybrau cythreulig o anodd o Golumbia Brydeinig i Utah, ar yr un pryd â phrofi, pan gollwn gyfrif o’r amser, y gallwn wneud yn fawr ohono. Yn y munudau hyn o eglurder, fe ddichon bod yna oes gyfan gwerth ei chofio.
THE HIGH ROAD
18 munud

Mae Nina Williams yn cael ei denu at ddringo’r llinellau harddaf… sydd hefyd yn digwydd bod y talaf. Bowldro uchel ydi arbenigedd Nina – sef dringo clogfeini tal eithafol o anodd, heb raff – sy’n cyfuno natur gorfforol dringo clogfeini â disgyblaeth feddyliol dringo solo rhydd. Byddwch yn syfrdan syn o’i gweld yn estyn cyhyrau’i breichiau ac yn trethu ei nerfau ymhell i’r parth lle byddai syrthio’n angheuol.
SPECTRE EXPEDITION – MISSION ANTARCTICA
36 munud

Mil o filltiroedd, llwythi dros ddeucan cilo, pum diwrnod a thrigain, tri chyfaill, un mynydd. Dyma hanes arwrol Leo Houlding, Jean Burgun a Mark Sedon a’u breuddwyd beiddgar, sef defnyddio barcutiaid eira i deithio pellteroedd maith, gyda llwythi anferth ar gyflymderau hyd at drigain milltir yr awr i gyrraedd copa’r mynydd mwyaf anghysbell ar y ddaear: Y Ddrythiolaeth, Antarctica.
THE FRENCHY
11 munud

Mae’n bosib bod Jacques Houot, 82 oed, wedi darganfod ffynhonnell ieuenctid. Dyma i chi Ffrancwr sydd â’i gartref yn Colorado, sy’n sgïwr rasio, yn feiciwr mynydd goriwaered, yn feiciwr ffordd ac yn ferchetwr rhonc – ac sy’n ymgorfforiad joie de vivre. Dihangodd Jacques â chroen ei ddannedd droeon rhif y gwlith – rhag tirlithriadau, canser, damweiniau ceir, trawiad ar y galon a hyd yn oed ymgais i’w lofruddio. Ac yntau’n oroeswr, mae’n gwneud ei orau i gael blas ar bob diwrnod sydd ganddo, yn cythru drwy’r mynyddoedd dan weiddi’i arwyddair, “Dim problem!”
THE LONG RIVER HOME
20 munud

Daw tri ffrind at ei gilydd ar berwyl, sef arwain hen longwr dall oedd gynt yn y Llynges, Lonnie Bedwell, ar daith bythefnos ar afon drwy’r Hafn Fawr. Dyma ffilm am oresgyn effeithiau gweddill rhyfel drwy fynd mewn caiac – brwydro yn erbyn rhaeadrau cryfion gan gynnwys Rhaeadr Lafa frawychus, ffurfio tîm, cicio i’r cerrynt a chael llwybr drwy’r llanast.
THE RUNNING PASTOR
9 munud

Yn fab bugail, daeth Sverri Steinholm i oed yn rhedeg ar ôl defaid o gwmpas Ynysoedd Ffaröe dramatig, arallfydol. Heddiw mae’n fugail yr Eglwys Lwtheraidd, y crefydd trech ar yr ynysoedd. Mae hefyd yn rhedwr dan gymhelliad, yn cael cysur a noddfa ysbrydol rhag croestynfeydd personol a beichiau bod yn offeiriad, ar lwybrau geirwon, digysgod ei famwlad.