Love Actually
Cyngerdd Byw gyda Cherddorfa Lawn
Dydd Iau 1 Rhagfyr 2022, 7.30pm
Bwciwch NawrBydd Love Actually, y gomedi ramantus sydd bellach yn glasur Dolig, ar daith yng ngwledydd Prydain 2022 gyda cherddorfa lawn yn perfformio ei thrac sain yn fyw i gyfeilio i’r sgrîn.
I lawer mae Love Actually Mewn Cyngerdd bellach yn draddodiad Dolig bob blwyddyn, a thai dan eu sang mewn blynyddoedd a fu – chwedl y Bournemouth Echo ‘… the whole performance was simply spectacular, enhancing the magic of this classic Christmas movie tenfold’, ac meddai’r York Press yn ei adolygiad pum seren ‘The live orchestra works to enhance this experience - and what a joyful one it is.’
Cyfarwyddwyd Love Actually gan Richard Curtis ac fe’i rhyddhawyd gyntaf yn y pictiwrs yn 2003, yn adrodd deg stori ar wahân, ond eto sy’n cydweu – straeon cariad ar adeg Dolig.
Mae cast ensemble y ffilm yn sêr pob copa walltog, yn cynnwys Hugh Grant, Liam Neeson, Colin Firth, Laura Linney, Bill Nighy, Martine McCutcheon, Alan Rickman, Emma Thompson, Keira Knightley Rowan Atkinson, Martin Freeman, a llu at hynny.
Bydd cerddorfa fyw lawn yn perfformio sgôr atgofus Craig Armstrong yn y sioeau yma, gyda thaflunio’r ffilm ar sgrîn enfawr. Mae Armstrong yn un o gyfansoddwyr ffilm mwyaf cydnabyddedig gwledydd Prydain, y dyfarnwyd BAFTA i’w waith am ei Orchest mewn Cerddoriaeth Ffilm.
Cyfyngiad oed 15 a throsodd yn ddieithriad
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.