Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 8 Chwefror 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Dydd Sadwrn 4 Medi 2021, 2.30pm Dydd Sadwrn 4 Medi 2021, 7.30pm Dydd Sul 5 Medi 2021, 7.30pm Dydd Llun 6 Medi 2021, 7.30pm
Bu trefnwyr y digwyddiad mewn cysylltiad i ddweud:
‘Oherwydd argymhellion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r rhagofalon sydd yn eu lle ni fydd modd i Riverdance fynd rhagddo, sydd ar hyn o bryd i fod i ddigwydd nos Lun 1 Mehefin, nos Fawrth 2 Mehefin a nos Fercher 3 Mehefin 2020. Gohirir y sioe tan nos Sadwrn 4 Medi (1 Mehefin 2020 yn flaenorol), nos Sul 5 Medi (2 Mehefin 2020 yn flaenorol) a nos Lun 6 2021 (3 Mehefin 2020 yn flaenorol). Gallwch fod yn dawel eich meddwl mai diogelwch ac iechyd artistiaid, staff a selogion ydi ein pennaf flaenoriaeth.Cadwch eich tocyn – bydd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.’
Mae Abhann Productions a Live Nation yn falch o gyhoeddi bod Riverdance: Sioe Newydd y Chwarter Canmlwyddiant yn dod yn ôl i orffen ei thaith yng ngwledydd Prydain. Mae pawb sydd ynghlwm â’r cynyrchiad wrth eu boddau fod y sioe’n gallu perfformio i’r holl ddeiliaid tocynnau siomedig hynny oedd yn gobeithio gweld y sioe yn gynharach eleni, a’r sioe’n mynd i bump ar hugain o oedfannau o 26ain Awst 2021 ymlaen (gweler y manylion drosodd). Fe fu hi’n dasg enfawr, ond bu modd ad-drefnu oedau taith 2020 i gyd yn llwyddiannus.Mae tocynnau’r oedau a ohiriwyd yn dal i fod yn ddilys, a chysylltir yn uniongyrchol â deiliaid y tocynnau.
Mae Riverdance: Sioe Newydd y Chwarter Canmlwyddiant yn ailddyfeisio’n rymus ac yn wefreiddiol y ffefryn yma gan y teulu i gyd, sy’n enwog drwy’r byd yn grwn ar gorn ei cherddoriaeth a enillodd wobr Grammy ac egni cyffrous ac angerdd ei dawnsio Gwyddelig a rhyngwladol. Ailrecordiodd y cyfansoddwr Bill Whelan ei drac sain cyfareddol ac mae’r cynhyrchydd Moya Doherty a’r cyfarwyddwr John McColgan wedi ailddychmygu’n llwyr y sioe dorrodd dir newydd, â goleuo, taflunio, dyluniadau llwyfan a gwisgoedd arloesol a thrawiadol, ac mae llawer o’r cast ar y daith ohiriedig mor ifanc eu bod heb hyd yn oed eu geni yn y flwyddyn yr agorodd y sioe gyntaf; 1995 yn y Point Theatre yn Nulyn!
Mae sioe’r Chwarter Canmlwyddiant yn hyrddio Riverdance i'r unfed ganrif ar hugain a bydd yn eich trochi dros eich pen a’ch clustiau yng ngrym rhyfeddol ac elfennol ei cherddoriaeth a’i dawnsio.Yn y dyrnaid o sioeau oedd ar fynd cyn torri’r daith yn fyr, roedd adwaith cynulleidfaoedd gwledydd Prydain yn anhygoel.
Bellach – ychydig dros bum mlynedd ar hugain wedyn! – bydd selogion, yn driw a newydd, o bob oed yn syrthio mewn cariad unwaith eto â hud Riverdance – y wreiddiol, yr orau.
Riverdance sydd yma, ond ar wedd na welsoch chi erioed o’r blaen.
“magical, moving and utterly memorable” ***** The Arts Review. Feb 2020
2.30pm Perfformiad Matinee Pris Safonol (uchafswm o 6 tocyn y pen: £40 | £46 | £52.50
Pris Safonol (uchafswm o 6 tocyn y pen: £40.50 | £50.00 | £55.50
2.30pm Perfformiad Matinee Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £40 pob tocyn
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £40.50 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.