Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 8 Chwefror 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Remembering the Oscars nos Sul 3 Mai 2020, 7.30pm wedi’i ohirio tan nos Llun 3 Mai 2021 7.30pm, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Yn syth ar ôl eu taith i dai dan eu sang yn y sioe ddifyr dros ben ac arloesol Remembering The Movies, daw Aljaz a Janette yn eu holau ac i’w canlyn eu sioe newydd sbon danlli grai Remembering The Oscars. Hwyliwch i ddathlu’r caneuon enillodd wobrau Oscar yn y swae ddawnsio newydd lawenychol yma yng nghwmni hoff gwpwl Strictly, Aljaz a Janette.
Pa un a ydych chi’n Wishing On A Star, Swinging On A Star neu ddim ond yn dawnsio yn y City of Stars, bydd y cynhyrchiad anhygoel yma’n mynd â chi o ffefrynnau’r teulu gan Disney, drwodd i Oesau Aur Hollywood a Bollywood, â chaneuon gan Lady Gaga, Adele, Prince, Queen, Eminem, Celine Dion a Barbra Streisand, yn ogystal â chlasuron gan gyfansoddwyr caneuon chwedlonol fel Burt Bacharach, John Barry, Rodgers & Hammerstein, Irving Berlin a llawer at hynny.
Mae yma gast o ddawnswyr a cherddorion gwych a chynlluniau llwyfan a gwisgoedd syfrdanol a sgrîn LED anferthol - does dim dwywaith na fydd y sbloet ddisgleirwych yma’n noson i’w chofio.
Methu mynd i’r Oscars eleni? Peidiwch â phoeni, mae’r sioe yma’n addo i chi’r peth ail orau!
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £28 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.