Johannes Radebe: Freedom Unleashed
Dydd Gwener 14 Ebrill 2023, 7.30pm
Bwciwch NawrMae’r jiarff dawnsio teledu a’r pencampwr rhyngwladol Johannes Radebe wrth ei fodd o gyflwyno cynhyrchiad newydd sbon danlli grai, Johannes Radebe: Freedom Unleashed, ar ôl llwyddiant ysgubol ei daith début yng ngwledydd Prydain ddechrau’r flwyddyn, a werthodd bob tocyn. Bydd Johannes Radebe: Freedom Unleashed yn agor ar 31 Mawrth ac ar fynd drwodd hyd at 27 Mai 2023, yn perfformio drwy hyd a lled gwledydd Prydain yn cynnwys wythnos ar ei hyd yn Peacock Theatre Llundain rhwng 4 ac 8 Ebrill 2023.
Yn Freedom Unleashed bydd Johannes yng nghwmni cast amrywiol gyda goreuon y byd, yn ddawnswyr a chanwyr dawnus, yn perfformio i gymysgedd o rythmau Affricanaidd ac anthemau parti aruthrol - a chyffyrddiad o hud y neuadd ddawns – gyda gwneud y sioe’n ddathliad gorfoleddus diwylliant, angerdd a rhyddid.
Meddai Johannes, "I was so thrilled and overwhelmed by the reception my first tour received earlier this year. The British public really has opened its heart to me and I feel very thankful. So it is with enormous pride and gratitude that I'm able to announce today my second UK Tour. I can't wait to see you all somewhere in the country in 2023!"
Yn nhreflan Zamdela Sasolburg, De Affrica y ganed Johannes Radebe a ddechreuodd ddawnsio pan oedd yn saith oed. Roedd disgyblaeth a swyn Dawnsio Neuadd a Lladin yn ei gyfareddu. Dros y tair blynedd ar ddeg wedyn cystadlodd Johannes mewn cystadleuthau lleol, yn dringo i fyny’r rhengeodd Lladin gyda’r pennaf anrhydeddau, ac ymhen yr hir a’r hwyr ychwanegu Dawnsio Neuadd ac arddulliau dawnsio eraill, megis Affricanaidd Cyfoes a Jazz. Bu yn y rownd derfynol mewn cystadleuthau dawnsio cenedlaethol a chael gwahoddiad i gystadlu’n rhyngwladol yn St Petersburg, Rwsia.
Pan oedd yn un ar hugain oed gadawodd Johannes Dde Affrica i weithio ar Costa, y llong griwsio Eidalaidd enwog drwy’r gwledydd. Yn sgil ei ddyfalbarhad a’i brofiad rhoddwyd mwy o gyfrifoldebau i’r brodor ifanc bywiog o Dde Affrica, gan gynnwys coreograffu, dysgu dawnswyr newydd, ac wedyn ymhen yr hir a’r hwyr fe’i dyrchafwyd yn Gapten Dawnsio. Yn 2018, fe’i gwahoddwyd i ymuno â thymor cyntaf y sioe ryngwladol ysgubol o lwyddiannus, Dancing With The Stars, yn Ne Affrica.
Teithiodd Johannes y byd yn y sioe ddawns ryngwladol Burn The Floor cyn i Strictly Come Dancing roi ei gwyn arno. Mudodd i wledydd Prydain i ddawnsio ar sioe fflaglong y BBC. Yn ei ail gyfres fe’i partnerwyd â Catherine Tyldesley a dawnsiodd yr act un-rhyw gyntaf gydag un o’i gyd-sêr Strictly, Graziano Di Prima. Yn 2022, fe fu iddo ef a’i bartner enwog, John Waite, wneud hanes drwy fod y bartneriaeth gyntaf, yn ddynion ill dau, i gystadlu ar y sioe. Cyrhaeddodd y ddau’r ffeinal ac yn ddiweddar ennill Gwobr LGBT Prydain am Ennyd y Flwyddyn yn y Cyfryngau. Bydd Johannes yn mynd yn ei ôl i’r neuadd ddawns i’w bumed gyfres ym mis Medi.
Cyflwynir Taith Brydain Johannes Radebe: Freedom Unleashed gan ROYO.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.