Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan 4 Mehefin gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU.  Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan. 

Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm.  Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Here Come the Boys

Yn dilyn y sioe'r llynedd a werthodd bob tocyn, dyma Here Come the Boys yn ei hôl ac i’w chanlyn tair o arch-sêr mwyaf poblogaidd a bondibethma Strictly yn y cynhyrchiad syfrdanol newydd sbon danlli grai yma.  

At Aljaž Škorjanec o Strictly Come Dancing daw un o ffefrynnau gynt Strictly Pasha KovalevP, a’r pishyn o Sicilia sydd ar Strictly ar hyn o bryd Graziano Di Prima

Bydd y strafagansa ddawns yma’n cynnwys y rhan fwyaf o genres dawnsio.Dewch at Aljaž, Pasha a Grazian ochr yn ochr â chast o ddawnswyr rhyngwladol, un o bencampwyr byd bîtbocsio a sgrîn LED anferthol mewn cynhyrchiad di-brin, sy’n addo’n deg bod yn sioe boetha 2021.

 
 Pris Safonol £28 | £31.50 | £40.50 | £45.50

 Pecyn Cwrdd a Chyfarch VIP 

 - Cyfarfod y tri artist
 - Cyfle i dynnu llun
 - Cofrodd Laminedig VIP

 (Ymgofrestru Cwrdd a Chyfarch - 5.15pm; Cwrdd a Chyfarch 5.30, diwedd 6pm)

£100
 (yn ogystal â thocyn i’r digwyddiad)
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau)  Seddi'r stalau at £28 pob tocyn

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr