Giovanni Pernice
This is Me
Dydd Sul 24 Ebrill 2022, 3.00pm
Ar Werth 2 Mawrth 2021 - 10.00 am
Mae ein ffefryn o Strictly Come Dancing, Giovanni Pernice, yn ôl gyda'i sioe boblogaidd THIS IS ME!
Bydd y perfformiwr yn goleuo'r llwyfan unwaith eto, ynghyd â'i gast o ddawnswyr proffesiynol, am flwyddyn wych arall o deithio.
Gyda charisma naturiol yr Eidalwr, ynghyd â choreograffi hardd wedi'i ategu'n berffaith gan drac sain gwych, mae THIS IS ME yn deyrnged i'r gerddoriaeth a'r dawnsiau sydd wedi ysbrydoli gyrfa Giovanni, a’i daith o fod yn ddawnsiwr cystadleuaeth i un o'r enwau mwyaf ar sioe boblogaidd y BBC.
Gallwch ddisgwyl eich hoff ddawnsiau Dawnsfa a Lladin, a mwy...
Ar Werth 2 Mawrth 2021 - 10.00 am
Oed 7+
Rhaid i rai dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Pris Safonol | £41.00 | £37.00 | £27.00 |
VIP | £88.00 |
Mae’r sesiwn cyfarfod a chyfarch yn cynnwys cwrdd â Giovanni i gael cyfle i dynnu lluniau a chael llofnod, yn ogystal â phrint wedi’i lofnodi. Cynhelir y sesiwn cyfarfod a chyfarch CYN Y SIOE, 90 munud cyn i'r sioe ddechrau. Rhaid i bob deiliad tocyn VIP gyrraedd o leiaf 10 munud cyn yr amser cyfarfod a chyfarch. Efallai na dderbynnir unrhyw un sy'n cyrraedd yn hwyr. |
|
Seddi cadair olwyn yn Rhes P am y pris isaf Hefyd, mae seddi cadair olwyn ar gael yn yr ardal VIP am bris VIP. |
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.