Giovanni Pernice - Taith 'Made in Italy 2023'
Dydd Sul 16 Ebrill 2023, 5.00pm
Bwciwch NawrMae pencampwr Strictly Come Dancing 2021 a’r eilun dawns Giovanni Pernice yn eich gwahodd chi i ddod ato ar daith i’w famwlad yn ei gynhyrchiad newydd sbon danlli grai yn 2023 ‘Made in Italy’.
Ato daw ensemble digon o ryfeddod o blith dawnswyr a chanwyr gorau’r byd Dawnsio Neuadd a theatr, a does dim dwywaith na fydd y sioe yma’n noson allan dan gamp!
Mae i’r sioe yma, Eidalaidd ei thema, drac sain anhygoel, coreograffi digon i fynd â’ch gwynt chi a gwisgoedd bendigedig.Ond cymerwch chi ofal… yn yr Eidal mae hi’n BOETH BOETH BOETH!!!!
Mae yna nifer gyfyngedig o docynnau VIP ar gael, sy’n cynnwys tocyn i’r sioe, cwrdd a chyfarch Giovanni cyn y sioe, print wedi’i lofnodi, cortyn gwddw VIP a chyfleoedd tynnu lluniau.
CYN Y SIOE mae’r cwrdd a chyfarch VIP, awr a hanner cyn cychwyn y perfformiad.
Rhaid i ddeiliaid tocynnau VIP i gyd gyrraedd o leiaf deng munud cyn amser cychwyn y cwrdd a chyfarch, gan na fydd hwyrddyfodiaid yn cael mynd i mewn.
***** Giovanni brings the house down - Lincolnshire Live
***** Out of this world - Wrekin News
***** 10/10 - Dorset Echo
Adolygiadau o deithiau 2017, 2018, 2019
Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain yn y perfformiad yma
Canllaw oed:8+
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn
*Gallai gynnwys tawch, mwg, pyrotechneg a goleuadau’n fflachio
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.