Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Sarah Beth Briggs

Rhaglen

Bach trefn. Hess: Jesu Joy of Man’s Desiring
Haydn: Sonata yn E feddalnod, Hob XVI/52
Hans Gál: Sonatina rhif 2 yn A leiaf, op 58
Chopin: Preliwd yn B leiaf, op 28 rhif 6
             Ballade rhif 1 yn G leiaf, op 23.

Lyricism and dance are the watchwords of Briggs’ beautifully prepared performances…
a player at the height of her powers. 
Musical Opinion (2021)

Mae’r pianydd Sarah Beth Briggs – “an artist of extraordinary magnetism” (Michael Kennedy, Daily Telegraph) – yn ddatgeiniad, yn unawdydd concerto ac yn gerddor siambr blaenllaw.  A hithau ers tro’n un o ddisgyblion y diweddar Denis Matthews, enillodd Ysgoloriaeth Hindemith i astudio cerddoriaeth siambr yn y Swistir gyda’r ffidler o fri, Bruno Giuranna, ac aros yn Lausanne i astudio ymhellach gydag un o ddisgyblion enwog Arrau, y pianydd o Chile Edith Fischer.

Lansiwyd ei gyrfa broffesiynol pan oedd yn un mlwydd ar ddeg, gyda dod y terfynwr ieuaf erioed ar y pryd yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC a chael un o Ddyfarniadau’r Fonesig Myra Hess.Bedair blynedd yn ddiweddarach daeth cydnabyddiaeth i’w rhan drwy’r gwledydd yn gyd-enillydd Cystadleuaeth Ryngwladol Mozart yn Salzburg.

Darlledwyd dehongliadau cerddorol Sarah drwy’r gwledydd ar y radio a’r teledu ac aeth perfformiadau concerto â hi i Awstria, yr Almaen, y Swistir, Ffrainc, yr Eidal a’r Unol Daleithiau.  Ymhlith cydweithrediadau cerddorfaol yng ngwledydd Prydain bu cyngherddau gyda’r Royal Philharmonic Orchestra, Royal Northern Sinfonia, yr Hallé, London Mozart Players, London Philharmonic Orchestra, English Chamber Orchestra, Cerddorfa Siambr yr Alban, Cerddorfa Wlster, Manchester Camerata, Royal Liverpool Philharmonic a’r BBC Concert Orchestra.Bu’n unawdydd amlwg ei lle yn rhai o bennaf oedfannau gwledydd Prydain gan gynnwys Bridgewater Hall Manceinion, a South Bank Centre a Barbican Centre Llundain.

Mae Sarah yn artist adnabyddus mewn cymdeithasau a gwyliau drwy hyd a lled gwledydd Prydain, yn fawr ei chlod gan hyrwyddwyr a beirniaid am ei pherfformiadau a’i chyflwyniadau difyr, llawn gwybodaeth i raglenni datganiadau.   Rhoes première (yng Ngŵyl Caer) Three Character Pieces Britten, sydd ar un o’i recordiadau a gafodd groeso brwd gan y beirniaid.Ymhlith clod y beirniaid a ddaeth i ran ei disglyfr eang bu Gwobrau Dewis y Golygydd a Dewis y Beirniaid Gramophone ac mae ei recordiadau’n cynnwys yn nodedig première byd Concerto Piano Hans Gál gyda’r Royal Northern Sinfonia a’r arweinydd Kenneth Woods.

Mae Sarah yn cael blas ar gadw’r ddysgl yn wastad rhwng gyrfa solo lwyddiannus ac oedau cerddoriaeth siambr rhif y gwlith a gweithiodd gyda llawer o unawdwyr o fri dros y blynyddoedd gan gynnwys y clarinetydd Janet Hilton, y soprano Kathryn Harries a’r fiolydd a’r cyn-aelod o’r Lindsay Quartet, Robin Ireland.Ar hyn o bryd mae ei phartneriaethau mwyaf rheolaidd gyda’r ffidler David Juritz ac yn rhan o’r Briggs Piano Trio (Sarah a David ac yn gwmni iddyn nhw’r soddgrythor, Kenneth Woods) yn ogystal â deuawd piano pedeirllaw gyda James Lisney.  Mae’n cydweithredu â Phedwarawdau Tannau Emperor a Carducci a gwnaeth recordiad mawr ei glod o Hans Gál i Toccata Classics gyda grŵp dan arweiniad y ffidler o Hwngariad Katalin Kertesz.

Am flynyddoedd lawer dysgodd Sarah’r allweddell ym Mhrifysgol Caerefrog.Mae’n rhoi dosbarthiadau meistr a hyfforddiant cerddoriaeth siambr yn rheolaidd yng ngwledydd Prydain a dros y rhyngrwyd a dysgodd hefyd yn y Swistir a’r Unol Daleithiau.Pan na fydd ar y llwyfan cyngerdd, mae’n dotio at y theatr, bwyd a gwin da a mynd am dro yng nghefn gwlad gyda’i Sbaengwn adara.

 
  • Pris Safonol: £6.50 Ymlaen llaw | £7.50 Ar y diwrnod
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £5.50 Ymlaen llaw | £6.50 Ar y diwrnod
  • Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr