Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Jeneba Kanneh-Mason

Repertoire

 Bach    Preliwd a Ffiwg C# lon llyfr 1 
 Mozart   Sonata Rhif 18
 Sciabin   Sonata Rhif 2
 Liszt   Vallée D’Obermann
 Liszt   Rhapsodi Hwngaraidd Rhif 2


Darllenwch nodiadau rhaglen llawn

Mae Jeneba Kanneh-Mason yn bedair ar bymtheg oed ac mae’n dal Ysgoloriaeth Victoria Robey i’r Royal College of Music, yn astudio’r piano gyda Vanessa Latarche. Roedd Jeneba yn un o Derfynwyr Categori’r Allweddell yng Nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC 2018, yn enillydd Gwobr Murs du Son yng Nghystadleuaeth Ryngwladol y Piano Lagny-Sur-Marne yn Ffrainc 2014 ac yn Gerddor Ifanc Nottingham 2013. Roedd hefyd yn enillydd Gwobr Piano Iris Dyer yn y Royal Academy of Music, yr Academi Iau, lle’r astudiodd gyda Patsy Toh.

Chwaraeodd gyngherddau rhif y gwlith yn Lloegr, yng Nghymru, ym Mharis ac yn Ynysoedd y Caribî, yn unawdydd datganiad a concerto ac yn gerddor siambr.Perfformiodd Concerto Piano Cyntaf Tchaikovsky, Concerto Piano Ravel, Ail Concerto Saint-Saens, K414 Mozart, Ail Concerto Piano Rachmaninov, a Florence Price, Piano Concerto in One Movement gyda Cherddorfa Chineke!yn y Royal Festival Hall a’r Royal Albert Hall ill dwy, lle gwnaeth ei début concerto yn y BBC Proms yn 2021. Yn 2022, bydd yn recordio gyda Cherddorfa Symffoni Radio Fienna.Ymhlith uchelfannau eraill bu datganiadau yn Wigmore Hall, Draper’s Hall a’r Academy of Saint Martin in the Fields, yn ogystal â Gwyliau Lenzburgiade, Cheltenham a Lamberhurst.Yn 2022, bydd Jeneba hefyd yn mynd ar daith yn Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau, Antigua a Barbuda gyda’r Kanneh-Masons.

Ymddangosodd Jeneba ar sawl rhaglen deledu a radio, gan gynnwys Radio 3, In Tune, y Gwobrau BAFTA, The Royal Variety Performance, y rhaglen ddogfen i BBC4, Young, Gifted and Classical, y rhaglen ddogfen Imagine i BBC1, This House is Full of Music, a BBC2 A Musical Family Christmas gyda’r Kanneh-Masons.Recordiodd i’r albwm, Carnival, gyda Decca Classics.

Mae Jeneba yn ddiolchgar i’r Fonesig Robey, Ymddiriedolaeth Nottingham Soroptimist ac i Ymddiriedolaeth Nottingham Education. 

 
  • Pris Safonol: £6.50 Ymlaen llaw | £7.50 Ar y diwrnod
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £5.50 Ymlaen llaw | £6.50 Ar y diwrnod
  • Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr