Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Jack Hancher

Rhaglen

J. S. Bach      - Sarabande/Dwbl BWV 1002 (7 munud)
J.S. Bach       - Bourrée/Dwbl BWV (6 munud)
Antonio Jose - Sonata i’r Gitâr
                        i) Allegro Moderato
                        iii) Pavane Triste

J. Dowland - Praeludium (2 funud)
J. Dowland - Fantasia yn G Fwyaf (5 munud)
B. Britten   - Nocturnal ar ôl John Dowland (19 munud)


Mae Jack Hancher yn gitarydd clasurol arobryn.  Cwblhaodd ei radd Meistr mewn Perfformio yn y Royal College of Music (RCM), Llundain yn 2018 lle’r astudiodd gyda Gary Ryan a Chris Stell ac ennill Gwobr Gitâr RCM 2014 tra oedd yn dal i fod yn ei ail flwyddyn yn fyfyriwr israddedig.Yn 2022, enillodd Adran Dannau Cystadleuaeth y Gynghrair Dramor Frenhinol a chyn hynny, yn 2021, aeth ar daith i sawl Gŵyl Gitâr yn Ewrop yn Artist EuroStrings.Yn 2020 enillodd Jack y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Gŵyl Gitâr Zagreb a Chystadleuaeth Gŵyl GuitArt Plovdiv ac yn 2021 dyfarnwyd iddo’r Ail Wobr yng Nghystadleuaeth Ryngwladol y Gitâr Altamira.Yn 2017 fe’i derbyniwyd i Lwyfan Artistiaid Ifainc Sefydliad Rhyngwladol y Gitâr (IGF) a pherfformiodd yng Ngŵyl Gitâr IGF Llundain yn Kings Place, Llundain ym mis Hydref y flwyddyn honno.Yn 2018 perfformiodd Jack yn Wigmore Hall, Llundain yn chwarae ei drefniannau o gerddoriaeth Albeniz i’r piano ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno yng Ngŵyl Celfyddydau Cyfoes Cheltenham perfformiodd gerddoriaeth gan Arnold, Britten a Dowland.Perfformiodd Jack drwy hyd a lled Ewrop mewn oedfannau megis y Großer Ehrbar Saal, Fienna a Conservatorio Giuseppe Verdi, Torino.

 
  • Pris Safonol: £6.50 Ymlaen llaw | £7.50 Ar y diwrnod
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £5.50 Ymlaen llaw | £6.50 Ar y diwrnod
  • Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr