Armand Djikoloum a Catherine Milledge
Cyngerdd Awr Ginio
Dydd Mawrth 18 Hydref 2022, 1.00pm
Amseroedd cyngerddau a sioeau:
DECHRAU | 13:00 |
DIWEDD | 14:00 |
COFIWCH: Amseroedd amlinellol yw’r rhain a gallent newid.
RHAGLEN
Eugène Bozza Fantaisie pastorale i’r obo a’r piano
Poulenc Sonata i’r obo a’r piano
Fauré Après un Rêve
Schumann Tair Rhamant, Op 94
Schumann Myrthen, Op 25 Rhif 24 ‘Du bist wie eine Blume’
Saint-Saëns Sonata i’r obo a’r piano, Op 166
Britten Metamorphoses i’r obo solo, Rhif 4 Bacchus
Armand Djikoloum
Yn Ffrainc y ganed Armand, astudiodd yn Conservatoire National Supérieur Musique et Danse de Lyon a gyda Philippe Tondre yn Hochschule für Musik Saar.
Yn 2021 roedd yn fuddugol yng Nghlyweliadau Rhyngwladol YCAT.
Ymhlith uchelfannau diweddar bu ei début yn Wigmore Hall ac yng Ngŵyl Lammermuir yn aelod o’r Kaleidoscope Chamber Collective. Y tymor yma mae’n recordio ac yn rhoi cyngherddau gyda Kaleidoscope CC yn cynnwys Phantasy Oboe Quartet Britten yn Wigmore Hall.
Yn 2022 mae’n cymryd rhan yng Ngŵyl Ibagué yng Ngholombia ac yn ymuno â Chineke Chamber Music Ensemble yng Ngŵyl Adelaide yn Awstralia a thrwy hyd a lled gwledydd Prydain.
Yn 2018 enillodd Armand y Drydedd Wobr a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Ryngwladol yr Obo yn Japan yn perfformio Concerto Strauss gyda Cherddorfa Ffilharmonig Tokyo ac yn rhoi datganiadau yn Neuadd Gyngerdd Kioi. Flwyddyn yn ddiweddarach enillodd ddwy Wobr Arbennig yng Nghystadleuaeth Muri yn y Swistir.
Pan oedd yn ddwyflwydd ar hugain penodwyd Armand yn brif ganwr obo yn Hannover Staatsoper. Mae’n ymddangos yn rheolaidd yn brif ganwr gwadd gyda cherddorfeydd blaenllaw gan gynnwys Staatskapelle Dresden, Symffoni Stavanger, Opera Frankfurt a Thai Opera Oslo.
…………………………………………………………………………………………………………..
Catherine Milledge
Yn Sir Fynwy y ganed Catherine Milledge. Astudiodd y Clasuron a Saesneg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen ac ar ôl graddio â gradd dosbarth cyntaf ymunodd â’r cwrs Cyfeiliant Piano yn Guildhall School of Music and Drama.
Yma cafodd ddiploma ôl-raddedig gyda chlod ac wedyn gradd MMus mewn perfformio’n bianydd solo; cynorthwywyd ei hastudiaethau gan grantiau gan Ymddiriedolaeth Gerddorol Iarlles Munster a Dyfarniadau Syr Henry Richardson. Aeth rhagddi i ennill gwobr Cyfeilydd y Flwyddyn Birmingham yn 2001 yn ogystal â gwobrau cyfeilio yng Nghystadleuaeth Ryngwladol y Gân Wigmore Hall a’r Gynghrair Dramor Frenhinol.
Ers hynny perfformiodd Catherine yn rheolaidd yn gyfeilydd cantorion ac offerynwyr fel ei gilydd ac mewn grwpiau siambr mwy. Rhoes ddatganiadau mewn oedfannau’n cynnwys Wigmore Hall a’r Purcell Room yn ogystal ag i wyliau a chymdeithasau cerdd o gwmpas y wlad.
Rhoes gyngherddau hefyd y tu allan i wledydd Prydain yn Ffrainc, yr Almaen, Gwlad yr Iâ, Canada ac yn y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel. Ymhlith ei recordiadau mae CDiau gyda’r baswnydd Meyrick Alexander a’r sacsoffonydd Amy Dickson ac mae wedi darlledu’n fyw ar BBC Radio 3.
Bellach yng Nghaerdydd mae cartref Catherine ac mae’n gweithio’n gyfeilydd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ac Academi Llais Ryngwladol Cymru yn ogystal â dysgu’r piano ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn gweithio ar ei liwt ei hun o bryd i’w gilydd i Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.