Rydym yn defnyddio briwsion

Rydym wrth ein boddau o gyhoeddi bod ein Swyddfa Docynnau yn ailagor i’r cyhoedd o ddydd Mercher 26 Ionawr 2022 allan, o hanner awr wedi naw tan bump o’r gloch, pan fyddwn yn dychwelyd at ein rhif arferol, sef 029 2087 8444. 

A chyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn codi o ddydd Gwener 26 Ionawr 2022 allan, ein sioe gyntaf pan ddown yn ein holau fydd Luther am hanner awr wedi saith y noson honno. 

Diolch o galon i chi am ddal i fod yn gefn i ni ac am eich amynedd dros yr ychydig wythnosau aeth heibio.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Alis Huws

Rhaglen

  • Bach/Grandjany - Étude Rhif 6 yn C Lon  
  • Joaquin Turina - Tocata y Fuga
  • Grace Williams - Hiraeth
  • Benjamin Britten - Cyfres i’r Delyn Op. 83 - I Agorawd, II Toccata, III Hwyrgan, IV Ffiwg, V Emyn (Sant Denio)
  • Catrin Finch - Môr Arianrhod
  • Reinhold Glière - Impromptu
  • Marcel Tournier - Images Cyfres Rhif 4 - I La Volière Magique, II Cloches sous la neige, III La danse du moujik

Unawdydd a cherddor siambr ar ei liwt ei hun ydi Alis Huws sydd newydd ei phenodi’n Delynor Swyddogol EUB Tywysog Cymru. Chwaraeodd sawl gwaith i Deulu Brenhinol Lloegr a rhoi perfformiadau drwy hyd a lled Ewrop a’r Dwyrain Pell.

Mae Alis yn perfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau amlwg eu lle i Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynnwys agor ei swyddfeydd newydd yn Llysgenhadaeth Prydain yn Berlin y llynedd, ei dathliadau Dygwyl Dewi yn Lancaster House, ac agor Brenhinol swyddogol y Senedd yn 2016. Yn gynharach eleni, fe’i gwahoddwyd i berfformio ym Mhalas Buckingham i nodi hanner can mlynedd ers arwisgo EUB Tywysog Cymru.

Yn 2017, cymerodd ran yng Nghynghrair y Delyn y Byd yn Hong Kong, ac ymuno â Katherine Jenkins ac Only Men Aloud mewn perfformiad i ddathlu Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd.Yn 2017, cymerodd ran yng Nghynghrair y Delyn y Byd yn Hong Kong, ac ymuno â Katherine Jenkins ac Only Men Aloud mewn perfformiad i ddathlu Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd. At hynny, cynrychiolodd Gymru yn Ffair Ryngwladol Hankyu yn Osaka yn 2016.

 
  • Pris Safonol: £6 Ymlaen llaw | £7 Ar y diwrnod
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £5 Ymlaen llaw | £6 Ar y diwrnod
  • Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr