Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Paul Carr, organ

Rhaglen:

Marco Enrico Bossi (1861–1925)
Étude Symphonique Op 78

J.S. Bach (1685-1750)
Trio Sonata 1 ym meddalnod E: Allegro; Adagio; Allegro BWV 525

Josef Rheinberger (1839–1901)
Sonata rhif 8: Rhagarweiniad a Passacaglia Op 132

Camille Saint-Saëns (1835–1921)
Preliwd a Ffiwg yn B Op 99 rhif 2

Pyotr Ilyich Tchaikovsky (1840–1893) [Traws. Paul Carr
The Nutcracker Suite: Waltz of the Flowers Op 71°

Derek Bourgeois (1941-2017)
Serenade Op 22

Marcel Dupré (1886–1971)
Évocation: Allegro deciso Op 37


Cerddor llawrydd ydi  Paul Carr sydd â’i gartref yn Birmingham. Mae’n un o raddedigion Royal Birmingham Conservatoire a dyfarnwyd iddo Aelodaeth Er Anrhydedd yn 2015.

Mae Paul yn perfformio cyngherddau lawer ar yr organ drwy hyd a lled gwledydd Prydain a pherfformiodd yn yr Almaen a Ffrainc, yn cynnwys dau ddatganiad ar yr organ yn Eglwys Gadeiriol Notre-Dame ym Mharis. Yn yr Unol Daleithiau perfformiodd ddatganiadau solo yn Chicago, Washington DC ac Efrog Newydd. Yn gyfeilydd corawl ac yn unawdydd teithiodd Paul gyda chorau i Ffrainc, yr Almaen, gwlad Pwyl, Awstria, y Weriniaeth Tsiec, a’r Unol Daleithiau.

Ers mwy nag ugain mlynedd mae Paul yn rhoi datganiadau ar yr organ bob mis yng Nghanolbarth Lloegr. Cyn Pandemig COVID-19 roedd wedi chwarae 198 o ddatganiadau yn y gyfres Sunday Afternoon Organ Music yn Holy Trinity Wordsley ar Sul cyntaf pob mis am dri o’r gloch. Ers mis Awst y llynedd cyflwynwyd datganiad fideo ugain munud ar lein nes daw’r dydd y gall y gyfres ailgychwyn yn fyw. Yn yr un modd, gweithiodd Paul gyda’r Athro David Saint, y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yn Eglwys Gadeiriol St Chad, Birmingham i gyflwyno’r gyfres datganiadau fisol Thursday Live yno ar YouTube, lle mae modd cyrchu fideos unigol y darnau a berfformir yn y datganiadau hyn o hyd drwy sianel YouTube Thursday Live Organ Recitals.

Mae Paul yn Gerddor Preswyl yn Holy Trinity Wordsley; yn Gyfarwyddwr Artistig y gyfres datganiadau organ Thursday Live yn Eglwys Gadeiriol  St Chad; yn Gyfarwyddwr St Ignatius Singers; yn Organydd Eglwys Blwy St Bartholomew Penn, yn Gyfarwyddwr Cerddorol Selly Park Singers ac yn gyfeilydd rheolaidd Dudley Performing Arts.

Mae Paul yn un o Gyn-lywyddion Birmingham Organists’ Association ac ar hyn o bryd mae’n Ddirpwy Gadeirydd Worcestershire Organists’ Association. Mae hefyd yn un o aelodau pwyllgor Royal Birmingham Conservatoire Association.

Ewch i wefan Paul Carr | Ewch i Facebook Paul Carr | Ewch i Twitter Paul Carr

 
  • Pris Safonol: £6.50 Ymlaen llaw | £7.50 Ar y diwrnod
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £5.50 Ymlaen llaw | £6.50 Ar y diwrnod
  • Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr