Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Lara Melda

Rhaglen: 

Chopin

Nocturne yn B fflat leiaf, Op 9 Rhif 1

Rachmaninoff
Étude Tableau Rhif 8 yn G leiaf, Op 33

Rachmaninoff
Étude Tableau Rhif 7 yn E fflat fwyaf. Op 33

Chopin
Sonata Rhif 3 yn B leiaf, Op 58


Enillodd Lara Melda gystadleuaeth 2010 Cerddor Ifanc y BBC, yn perfformio Ail Concerto Piano Saint-Saëns yn y rownd derfynol gyda Vasily Petrenko a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng Nghaerdydd. Ers hynny perfformiodd hefyd Concerto Piano K466 Mozart a Thrydydd Concerto Piano Beethoven gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Gwnaeth Lara ei début yn y BBC Proms a’r Royal Albert Hall yr haf yma yn un o’r unawdwyr yn perfformio gyda’r BBC Concert Orchestra dan arweiniad Andrew Gourlay mewn noson wedi’i neilltuo i enillwyr cynt Cerddor Ifanc. Ymhlith perfformiadau concerti eraill bu Young Apollo Britten gyda’r Britten Sinfonia dan arweiniad Paul Daniel (Barbican), Ail Concerto Piano Rachmaninov gyda’r Royal Northern Sinfonia a Kirill Karabits (The Sage), K466 a K242 Mozart gyda’r Aurora Orchestra a Nicholas Collon (Kings Place), Concerto Grieg gydag English Sinfonia (St John’s Smith Square) a Thrydydd Beethoven ar daith yn Seland Newydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Seland Newydd. Chwaraeodd ddatganiadau mewn oedfannau lawer yng ngwledydd Prydain a thramor, yn eu plith y Laeiszhalle (Hamburg), Les Sommets Musicaux yn Gstaad (y Swistir), Gŵyl Mecklenburg-Vorpommern (yr Almaen) a Cadogan Hall (Llundain). Gwnaeth Lara ei début mewn datganiad yn y Wigmore Hall yn 2017, ac wedi hyn gwelwyd tri datganiad eto dan eu sang yno ym misoedd Ionawr, Rhagfyr 2018, Tachwedd 2019 a Mai 2021. Yn ystod pandemig COVID daliodd Lara i draddodi cyngherddau ar lwyfannau ar lein, yn cynnwys datganiadau i lawer o glybiau cerdd drwy’r byd yn grwn a hefyd perfformiad o K595 Mozart gyda’r Northern Chamber Orchestra.

Darllenwch gofiant llawn Lara Melda (PDF)

 
  • Pris Safonol: £6.50 Ymlaen llaw | £7.50 Ar y diwrnod
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £5.50 Ymlaen llaw | £6.50 Ar y diwrnod
  • Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr