City of Birmingham Symphony Orchestra
Dydd Iau 9 Mawrth 2023, 7.30pm
Bwciwch NawrArweinydd | Mirga Gražinytė-Tyla |
Unawdydd | Vilde Frang, ffidil |
Schumann | Symffoni Rhif 1 |
Elgar | Concerto Ffidil |
Mae’r gyntaf o bedair symffoni Schumann yn un o’i weithiau mwyaf gorfoleddus, yn heigio gan asbri a hyder di-ben-draw. Fe’i hysbrydolwyd gan nawfed symffoni Schubert roedd newydd ei ddarganfod ac fe’i brasluniwyd mewn pedwar diwrnod cwta ym mis Ionawr 1841. Yn gymar gwaith Schumann cawn concerto i’r ffidil sydd ymhlith goreuon yr ugeinfed ganrif, a sgrifennodd Elgar pan oedd ar anterth ei alluoedd creadigol. Mae’n waith dihafal o dyner sy’n enwog ar gorn ei gyflwyniad enigmatig ‘Herein is enshrined the soul of…’
RHAGOR AM Y GYFRES GLASUROL YNG NGHAERDYDD
SGWRS CYN Y GYNGERDD (AM DDIM)
Dr Jonathan James
6:30pm | Lefel 1
Awr cyn pob un o’n cyngherddau mae gennym gip hanner awr ar gerddoriaeth a chyd-destun y perfformiad. Mae’r digwyddiadau poblogaidd yma’n gydnaws ac yn llawn gwybodaeth ac yn ffordd dan gamp o wneud yn fawr o’ch profiad yn y cyngerdd.
Mae’r sgyrsiau am ddim i’w mynychu, ond dyrennir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin. Cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau’ch lle.
Pris Safonol | £9.50 | Lefelau 5 (golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig) |
£15.00 | Lefelau 9 a 13, 10 a 12 | |
£22.00 | Lefelau 9 a 13 | |
£28.50 | Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen) Blaen y Stalau Ochr |
|
£34.00 | Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol | |
£39.50 | Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr | |
Plant dan 16 oed |
PLANT YN MYND AM DDIM Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a bwrw’u bod ar gael. |
|
Tocyn Platinwm Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf yn unig. |
£48.00 | |
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith (Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.) |
£2.00 oddi ar docyn pris llawn | |
Myfyrwyr | Dan 26 oed Rhaid cyflwyno prawf adnabod neu codir y pris llawn. |
£5.00 | |
Dros 65 (Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.) |
Gostyngiad o 10% | |
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) | Tocynnau stondinau am y pris tocyn isaf ar gyfer pob cyngerdd (ac eithrio’r tocyn £9.50). | |
Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) | Codwch docynnau Cynnig Cynnar a thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00 yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. |
|
Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) | Codwch docynnau Cynnig Cynnar a thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma. |
|
Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) | 2 gredyd |
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.