Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Cerddorfa WNO

 Arweinydd     Tomáš Hanus
 Unawdydd    Jana Kurucova, mezzo-soprano
 Britten    Four Sea Interludes O Peter Grimes
 Dvořák    Caneuon Beiblaidd
 Wagner    Rhagarweiniad a Liebestod o Tristan ac Isolde
 Janáček    Sinfonietta

 

Mae portreadau’r môr yng nghampwaith operatig Britten yn gyforiog o awyrgylch, yn deffro atgofion ym mhwll y galon ac yn darlunio teimladau’n gelfydd.  Swyn melodig sydd frenin yng nghasgliad gweddigar Dvořák o ganeuon o’r flwyddyn 1894, ac mae’r Preliwd a’r Liebestod o opera Wagner – a berfformiwyd gyntaf ym Munich ym 1865, wedi’i seilio ar garwriaeth ddrwg ei thynged o’r ddeuddegfed ganrif – yn drwm gan gnawdolrwydd penfweddol a dyheu corfforol. Greddfau theatraidd Janáček sydd amlycaf eu lle yn ffanfferau tanbaid ei Sinfonietta lachar ei sgorio, a’i seinfyd trawiadol sy’n dwyn y noson wefreiddiol i ben.

 



RHAGOR AM Y GYFRES GLASUROL YNG NGHAERDYDD

SGWRS CYN Y GYNGERDD (AM DDIM)
Dr Jonathan James
6:30pm | Lefel 1   

Awr cyn pob un o’n cyngherddau mae gennym gip hanner awr ar gerddoriaeth a chyd-destun y perfformiad. Mae’r digwyddiadau poblogaidd yma’n gydnaws ac yn llawn gwybodaeth ac yn ffordd dan gamp o wneud yn fawr o’ch profiad yn y cyngerdd. 

Mae’r sgyrsiau am ddim i’w mynychu, ond dyrennir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin. Cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau’ch lle.

 
 Pris Safonol  £9.50  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £28.50 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £34.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £39.50 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£48.00
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr | Dan 26 oed
Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. 
£5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Tocynnau stondinau am y pris tocyn isaf ar gyfer pob cyngerdd (ac eithrio’r tocyn £9.50).
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.
  Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) 2 gredyd


A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr