Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y BBC

 Arweinydd    James Feddeck
 Unawdydd    Daniel Ciobanu, piano
 Anna Clyne    Masquerade
 Tchaikovsky    Concerto Piano Rhif 1
 Rachmaninoff    Dawnsfeydd Symffonig

 

Mae Masquerade gan Anna Clyne yn deffro ymdeimlad o ddathlu, gan gyfuno themâu gwreiddiol â hen alawon Lloegr. Mae Concerto Cyntaf angerddol Tchaikovsky i’r Piano yn creu’r un ymdeimlad o achlysur, yn ei ddarnau blodeuog gwych, ei orchestwaith taranllyd, a’i alawon esgynnol. Yn ei gytgordiau moethus a chynneddf rythmig ei arddull ddiweddarach, mae cyfansoddiad cyflawn olaf Rachmaninov, sef Symphonic Dances, yn
defnyddio motiffau sy’n deillio o gerddoriaeth Eglwys Rwsia ochr yn ochr â dyfyniadau o’i symffoni gyntaf ei hun gyda chreu cymysgedd gwefreiddiol o hiraeth yn erbyn bwrlwm y ddinas fawr ac egni’r ‘America Fodern’.

  


RHAGOR AM Y GYFRES GLASUROL YNG NGHAERDYDD

SGWRS CYN Y GYNGERDD (AM DDIM)
Dr Jonathan James
6:30pm | Lefel 1   

Awr cyn pob un o’n cyngherddau mae gennym gip hanner awr ar gerddoriaeth a chyd-destun y perfformiad. Mae’r digwyddiadau poblogaidd yma’n gydnaws ac yn llawn gwybodaeth ac yn ffordd dan gamp o wneud yn fawr o’ch profiad yn y cyngerdd. 

Mae’r sgyrsiau am ddim i’w mynychu, ond dyrennir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin. Cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau’ch lle. 

 
 Pris Safonol  £9.50  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £28.50 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £34.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £39.50 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£48.00
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr | Dan 26 oed
Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. 
£5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Tocynnau stondinau am y pris tocyn isaf ar gyfer pob cyngerdd (ac eithrio’r tocyn £9.50).
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.
  Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) 2 gredyd


A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr