Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Brno Philharmonic Orchestra

 Arweinydd    Dennis Russell Davies 
 Unawdydd    Laura van der Heijden, sielo
 Vaughan Williams     Fantasia on a Theme of Thomas Tallis  
 Martinů    CConcerto Sielo Rhif 1
 Janáček    Jealousy
 Dvořák    Symffoni Rhif 9 O'r Byd Newydd

 

Dyma un o ogoniannau cerddoriaeth Lloegr ar ben rhaglen sy’n cynnwys tri  hyfansoddwr mawr o Tsieciad. Mae Concerto Soddgrwth hyfryd Martinů yn heigio gan ddyfeisgarwch telynegol, yn cydasio idiomau gwerin Tsiecaidd ag eglurder Ffrengig, ac
agorawd fer drawiadol ydi Jealousy y syniwyd amdani un tro ar gyfer opera Janáček Jenůfa. Ac iddi alawon cofiadwy ac uchafbwyntiau gwefreiddiol, mae Symffoni From the New World Dvořák yn curo gan yr egni a dynnodd o’i brofiadau Americanaidd yn Efrog Newydd York ac, yn y ‘Largo’ enwog, yn deffro yn y cof hiraeth y cyfansoddwr am ei famwlad Bohemia.



RHAGOR AM Y GYFRES GLASUROL YNG NGHAERDYDD

SGWRS CYN Y GYNGERDD (AM DDIM)
Dr Jonathan James
6:30pm | Lefel 1   

Awr cyn pob un o’n cyngherddau mae gennym gip hanner awr ar gerddoriaeth a chyd-destun y perfformiad. Mae’r digwyddiadau poblogaidd yma’n gydnaws ac yn llawn gwybodaeth ac yn ffordd dan gamp o wneud yn fawr o’ch profiad yn y cyngerdd. 

Mae’r sgyrsiau am ddim i’w mynychu, ond dyrennir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin. Cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau’ch lle. 

 
 Pris Safonol  £9.50  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £28.50 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £34.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £39.50 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£48.00
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr | Dan 26 oed
Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. 
£5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Tocynnau stondinau am y pris tocyn isaf ar gyfer pob cyngerdd (ac eithrio’r tocyn £9.50).
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.
  Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) 2 gredyd


A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr