Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.
Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni. Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.
AfAr ôl gweld cyngherddau cerddorfaol gwych yn dod yn eu holau i Gaerdydd yn 2021-2022, rydym mewn hwyl dathlu, ac yn nhymor 2022-23 mae gennym fwy o le fyth i wenu. Choeliech chi fawr – ddeugain mlynedd yn ôl y bu i Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, agor ei drysau led y pen a rhoi i Gaerdydd ac i Gymru neuadd gyngerdd i ymfalchïo ynddi, ac i gerddorfeydd gwadd acwsteg gyda goreuon y byd i berfformio ynddi.
Eleni, gael i ni ddathlu’n grand o’n coeau, mae’n wefr i ni ddod â thymor bendigedig o gerddoriaeth eithriadol i chi, ac i wneud hyn yn fwy o ddathliad fyth rydym wrth ein boddau o allu cynnig prisiau rhatach o dipyn i chi fel bod dod i’r gyfres raenus yma’n fwy fforddiadwy nag erioed. Mae yma fwy na phum cant o seddi ar gael am ddim ond ugain punt a llai, cannoedd am ddim ond decpunt, felly cofiwch godi tocynnau rhag blaen i ddathlu deugain mlynedd o gerddoriaeth dan gamp yn Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru!
O FRWSEL I REYKJAVIK… DEUNAW CYNGERDD GYDA’R GORAU GEWCH CHI
Pa un ai’r Clasurol, y Rhamantaidd neu’r ugeinfed ganrif sydd at eich dant chi, does dim dwywaith nad ydi’r Gyfres Caerdydd Glasurol eleni’n wledd. Mae yma gerddorfeydd yn ymweld o wlad Belg, Gwlad yr Iâ a’r Weriniaeth Tsiec, ynghyd â rhai o unawdwyr amlycaf ein dydd, ac rydym yn siwr y bydd arnoch eisiau dod atom ni i rai o’r cyngherddau ar gynnig – neu hyd yn oed y cwbl – eleni, a ninnau’n dathlu pen-blwydd mawr.
SUNAWDWYR RHYNGWLADOL Mae yma gymanfa o unawdwyr, yn sêr pob copa walltog, yn cynnwys y pianyddion Martin James Bartlett, Benjamin Grosvenor, Daniel Ciobano, Stephen Hough, Paul Lewis a Yeol Eum Son, y ffidleriaid Nicola Benedetti, Bomsori Kim, Simone Lamsma, James Ehnes a Vilda Frang a’r soddgrythorion Laura van der Heijden a Sheku Kanneh-Mason. Ymhlith yr uchelfannau mae:
CYCHWYN CYFAREDDOL Y TYMOR Mae’r Gerddorfa Breswyl, sef Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn croesawu Ryan Bancroft a’r pianydd ifanc gwefreiddiol Yeol Eum Son i gyngerdd agoriadol y tymor.
BOHEMIAN RHAPSODY Daw’r soddgrythor arobryn Laura van der Heijden at Gerddorfa Ffilharmonig Brno fawr ei bri i wledd o gerddoriaeth Tsiecoslofacia a Lloegr.
O FORLUN TYMHESTLOG I SINFONIETTA FRWD Dan y maestro o Tsieciad Tomáš Hanus, mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno rhaglen odidog gan bedwar o gyfansoddwyr mawr byd opera.
BROADWAY I BOLÉRO John Wilson fydd yn dal awenau Sinfonia of London mewn rhaglen foethus yn cynnwys Martin James Bartlett a Rhapsody in Blue Gershwin.
ANGERDD A GWLADGARWCH Mae teimladau o eigion calon yn dygyfor drwy raglen gan y Philharmonia Orchestra o weithiau gan Berlioz, Bloch a Sibelius, dan gyfarwyddyd Jukka-Pekka Saraste ac yn rhoi llwyfan i Sheku Kanneh-Mason.
Y GWANWYN A’R HYDREF Croeso’n ôl i Mirga Gražinytė-Tyla a’r City of Birmingham Symphony Orchestra gydag Elgar a Schumann, a’r seren o ffidler Vilde Frang.
GWLAD TÂN AC IÂ Cyfle prin i glywed Cerddorfa Symffoni Gwlad yr Iâ gyda’i phrif arweinydd Eva Ollikainen a Stephen Hough yn chwarae Beethoven.
Y FFINDIR YN DEFFRO Yr arweinydd o Ffiniad Dalia Stasevska yn cyfarwyddo The Hallé mewn rhaglen rhy dda i’w cholli o Sibelius a Beethoven gyda thri o artistiaid amlycaf y byd.
TANYSGRIFIWCH I’N PECYNNAU CYNGHERDDAU NI NAWR
MANTEISION PRYNU PECYN:
Gallwch arbed hyd at 30% ar eich tocynnau ac, o’u prynu nhw’n awr, fe gewch chi dalu dros chwe mis (yn ddi-log), gan wneud i’ch arian fynd ymhellach (does rhaid i chi ond gofyn yn y Swyddfa Docynnau am y ffurflen archeb reolaidd)
Y dewis cyntaf o seddi i’r holl gyngherddau eleni
Cerdyn Disgownt Tanysgrifiwr
Prynu tocynnau ychwanegol nawr, neu’n nes at yr adeg, i’ch ffrindiau a’ch teulu, am eich pris disgownt tanysgrifio
Prynu eich rhaglenni ymlaen llaw a chael disgownt – £3.00 ymlaen llaw, £3.50 ar y diwrnod.
MANTEISION PRYNU TOCYNNAU I’R HOLL GYNGHERDDAU:
Gwahoddiad i’n parti ni ar noson agoriadol y tymor
Dau gyngerdd awr ginio am ddim o’ch dewis
Cerdyn disgownt yn rhoi hawl i chi gael diodydd poeth a thameidiau i aros pryd 10% yn rhatach yn y Lolfa Jin a’r
barrau
Y disgownt tanysgrifio tymor cyfan mwyaf rydym wedi’i gynnig erioed, gyda gwneud mwynhau’r cyngherddau i gyd yn fwy fforddiadwy fyth
Blwyddyn gyfan o gyngherddau gwych i edrych ymlaen atynt!
I danysgrifio, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.
Rhif Ffon Grwpiau Byddwn yn nodi ceisiadau am seddi penodol, ond does dim dal y byddan nhw ar gael felly dylech gadw lle’n fuan. Os oes arnoch chi eisiau eistedd gyda’ch ffrindiau, rhowch yr archebion i gyd ar yr un pryd.
Mae tanysgrifiadau ar gael yn bersonol neu dros y ffôn. Piciwch i mewn neu roi caniad i’n tîm cyfeillgar yn y Swyddfa Docynnau i archebu.
RHAGOR AM Y GYFRES GLASUROL YNG NGHAERDYDD SGWRS CYN Y GYNGERDD (AM DDIM) Lefel 1
Awr cyn pob un o’n cyngherddau mae gennym gip hanner awr ar gerddoriaeth a chyd-destun y perfformiad. Mae’r digwyddiadau poblogaidd yma’n gydnaws ac yn llawn gwybodaeth ac yn ffordd dan gamp o wneud yn fawr o’ch profiad yn y cyngerdd.
Mae’r sgyrsiau am ddim i’w mynychu, ond dyrennir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin. Cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau’ch lle.
Mae Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru yn eiddo Cyngor Caerdydd sy’n ei rheoli a’i hariannu. Cefnogir Neuadd Dewi Sant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
CYCHWYN CYFAREDDOL Y TYMOR - Mae’r Gerddorfa Breswyl, sef Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn croesawu Ryan Bancroft a’r pianydd ifanc gwefreiddiol Yeol Eum Son i gyngerdd agoriadol y tymor.
BOHEMIAN RHAPSODY - Daw’r soddgrythor arobryn Laura van der Heijden at Gerddorfa Ffilharmonig Brno fawr ei bri i wledd o gerddoriaeth Tsiecoslofacia a Lloegr.
O FORLUN TYMHESTLOG I SINFONIETTA FRWD - Dan y maestro o Tsieciad Tomáš Hanus, mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno rhaglen odidog gan bedwar o gyfansoddwyr mawr byd opera.
Y feiolinydd clasurol ac arweinydd o Sbaen, Roberto González-Monjas ar y cyd â Paul Lewis, sy’n cael ei ystyried yn rhyngwladol fel un o gerddorion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth ar gyfer gwledd o ...
BROADWAY I BOLÉRO - John Wilson fydd yn dal awenau Sinfonia of London
mewn rhaglen foethus yn cynnwys Martin James Bartlett a Rhapsody in Blue Gershwin.
Ymunwch â ni am bnawn o gerddoriaeth hynod â gŵyl nadoligaidd The Sixteen – yn amrywiol o glasuron y Dadeni i rai modern, aiff y gŵyr doeth i’r llwyfan am y gyngerdd nadoligaidd hon. Yr anrheg berf...
Dewch at Gerddorfa’r BBC I ddathlu canrif o hud Disney yn y cyngerdd yma gyda cherddoriaeth gerddorfaol fyw, sy’n cynnwys pytiau bywluniedig o’ch hoff gymeriadau, sy’n boblogaidd drwy’r byd yn grwn.
Siawns nad y maestro o Tsieciad Tomáš Hanus fydd yr arweinydd delfrydol i bortreadau cerddorol pefriol Smetana o’i annwyl Fohemia ar gadw mewn chwe chathl symffonig o’r enw Má vlast neu ‘Fy Mamwlad’.
Mae’r Gerddorfa Breswyl, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn croesawu Ludovic Morlot, James Ehnes, Rhian Lois a Neal Davies wrth iddynt berfformio cerddoriaeth hudolus gan Brahms, Messiaen a F...
ANGERDD A GWLADGARWCH - Mae teimladau o eigion calon yn dygyfor drwy raglen gan y Philharmonia Orchestra o weithiau gan Berlioz, Bloch a Sibelius, dan gyfarwyddyd Jukka-Pekka Saraste ac yn rhoi llw...
Y GWANWYN A’R HYDREF - Croeso’n ôl i Mirga Gražinytė-Tyla a’r City of
Birmingham Symphony Orchestra gydag Elgar a Schumann, a’r seren o ffidler Vilde Frang.
Mae’r Gerddorfa Breswyl, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn croesawu'r Arweinydd Llawryfog Tadaaki Otaka a Simone Lamsma wrth iddynt berfformio'r ffefrynnau, Britten ac Elgar, ochr yn ochr â ...
Mae’r Gerddorfa Breswyl, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn croesawu Ryan Bancroft ochr yn ochr â Bomsori Kim wrth iddynt berfformio cerddoriaeth hudolus gan Ives, Szymanowski ac Adams.