The Tabernacle Choir and Orchestra at Temple Square - AILDREFNU
Taith Dreftadaeth 2021
Dydd Llun 5 Gorffennaf 2021, 8.00pm
SALT LAKE CITY - Bydd yr ensemble byd-enwogTabernacle Choir & Orchestra at Temple Square yn teithio drwy’r gwledydd ar eu taith nesaf, yn perfformio mewn chwe dinas mewn pedair gwlad Nordig ac yng ngwledydd Prydain dros ddeuddydd ar hugain o ddydd Iau, Mehefin 25, drwodd at ddydd Iau, Gorffennaf 16, 2020. Bydd y daith yn cynnwys perfformiadau yn y dinasoedd a’r oedfannau sy’n dilyn:
Dinas |
Dyddiad |
Oedfan |
Stockholm, Sweden |
19 Mehefin 2021 (Sad)* |
Konserthuset Stockholm |
Helsinki, Y Ffindir |
22 Mehefin 2021 (Maw) |
(i’w chyhoeddi) |
Copenhagen, Denmarc |
26 Mehefin 2021 (Sad) |
DR Koncerthuset |
Oslo, Norwy |
29 Mehefin 2021 (Maw) |
Oslo Spektrum |
Caeredin, yr Alban |
2 Gorffennaf 2021 (Gwen) |
Usher Hall |
Caerdydd, Cymru |
5 Gorffennaf 2021 (Llun) |
Neuadd Dewi Sant (gwahoddiad yn unig) |
Casnewydd, De Cymru |
6 Gorffennaf 2021 (Maw) |
Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru |
* Matinée a chyngerdd gyda’r hwyr.
“We are delighted that with the significant cooperation of the performance venues and our travel partners we have been able to reschedule this tour for these dates in 2021,” meddai Llywydd y Côr Ron Jarrett.”“We will still be able to realise the original concept for the tour to visit Wales and other areas with heritage to the Choir whose first members were early converts to The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints with musical talents from these locations.”
Cyn gohirio’r sioe roedd tocynnau ar werth yn Stockholm a Chaeredin.I gyngherddwyr gododd docynnau i’r cyngherddau yma, gwnaed trefniadau i drosglwyddo’r tocynnau hyn i ddyddiadau newydd y cyngherddau yn 2021. Bydd y ddwy oedfan yma mewn cysylltiad â dalwyr tocynnau drwy ebost ynghylch y drefn o ran tocynnau.Bydd yr ebost o Stockholm yn cynnig gwybodaeth ynghylch gofyn am ad-daliad.Caiff dalwyr tocynnau Caeredin ebostio customer.enquiries@usherhall.co.uk i ofyn am ad-daliad.Mae gwerthiannau tocynnau yn Stockholm a Chaeredin wedi ailddechrau; bydd tocynnau Copenhagen ar werth ddydd Llun, 6 Gorffennaf 2020. Cyhoeddir a oes tocynnau ar gael yn yr oedfannau eraill maes o law.Gweler TabChoir.org/tour i gael rhagor o wybodaeth.
Ers ei thaith gyntaf y tu allan i Utah ym 1893, teithiodd y Côr yn eang ar draws yr Unol Daleithiau a thramor. Yn ogystal â’i theithiau cynt i Ewrop, perfformiodd mewn prifddinasoedd cerdd o Israel a Rwsia i Japan ac Awstralia. Ar ei hynt bu hefyd perfformiadau yn nefodau urddo saith o arlywyddion yr Unol Daleithiau. Mae tua phump a thrigain o aelodau’r Gerddorfa yn teithio gyda’r Côr ers 2005.
Mae’r Côr 360 o leisiau - gartref yn aml i gyfeiliant y Gerddorfa y mae rhestr ei haelodau dros ddau gant - i’w glywed hefyd bob wythnos yn rhan o’r darllediad Music and the Spoken Word . Y rhaglen hanner awr yma ydi darllediad rhwydwaith parhaol hwya’r byd ac ar hyn o bryd mae i’w chlywed ar dros ddwy fil o orsafoedd radio, teledu, cebl a lloeren drwy’r byd yn grwn.
Mae’r Côr a’r Gerddorfa’n artistiaid recordio gweithgar a chanddyn nhw’u label recordio eu hunain a ryddhaodd dros 90 o CDiau, DVDiau, llyfrau a nwyddau eraill ers ei sylfaenu yn 2003. Roedd CD diweddaraf y Côr, Let Us All Press On: Hymns of Praise and Inspiration, yn rhif un ar siart Traddodiadol Clasurol Billboard am dair wythnos pan gafodd ei ryddhau, yn nodi’r drydedd waith ar ddeg i albwm gan y Côr gael y fath anrhydedd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.thetabernaclechoir.org/tour. Mae adnoddau cyfryngau ychwanegol i’w cael ar y wefan yn About Us/Newsroom.