Sara Pascoe
Success Story
Dydd Sadwrn 1 Ebrill 2023, 7.30pm
Bwciwch NawrPan oedd Sara’n bedair ar ddeg oed penderfynodd fod arni eisiau bod yn enwog. Ers hynny, mae wedi gwneud clyweliad i Barrymore, dychryn Pete Burns a difetha pen-blwydd Hugh Grant – ond edrychwch arni erbyn hyn…(edrychwch, da chi, mae arni angen i chi edrych.A churo dwylo.A chwerthin.Ac wedyn curo dwylo eto).
Dyma seren rhaglen stand-up arbennig BBC2 Sara Pascoe: LadsLadsLads yn ei hôl mewn sioe stand-up newydd sbon danlli grai! Mae Sara Pascoe yn fawr ei chlod yn ddigrifwr, yn awdur ac yn actor.Sgrifennodd ei chomedi sefyllfa ddiweddar ei hun ar BBC2, Out Of Her Mind,a serennu ynddi, hi ydi gwesteiwr enwog The Great British Sewing Bee BBC2, Last Woman On Earth y BBC, Comedians Giving Lectures Dave a Guessable Comedy Central.
Sara sgrifennodd a pherfformio hefyd y gyfres BBC Radio 4 Modern Monkey a’r ffilm fer ar BBC2 Sara Pascoe vs Monogamy, a ysbrydolwyd gan ei llyfr cyntaf Animal. Roedd ei hail lyfr, Sex Power Money, yn un o werthwyr gorau’r Sunday Times, gwrandawodd miliynau ar y podlediad o’r un enw oedd i’w ganlyn a thra oedd ar fynd fe’i henwebwyd am wobrau rhif y gwlith.
“She is a comic in her prime”
★★★★ The Times
“Whipsmart… winningly funny"
★★★★ The Guardian
★★★★ Daily Telegraph
★★★★ The Sunday Times
★★★★ Evening Standard
★★★★ The Scotsman
gwefan Sara | twitter Sara: @sarapascoe | instagram Sara: @sara.pascoe
Cofiwch fod yna ddehonglwr Iaith Arwyddion Prydain ynghyd â’r sioe yma.
Y Stalau, ar ochr dde’r llwyfan, ydi’r man gorau i gadw sedd at hyn.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.