Sandi Toksvig Yn Fyw!
Taith National Trevor
Dydd Mercher 26 Mai 2021, 7.30pm
Bwciwch NawrAr ôl teithiau werthodd bob tocyn yng ngwanwyn 2019 a gwanwyn 2020 ac o fawr alw amdani, mae Sandi Toksvig yn dod yn ei hôl i Neuadd Dewi Sant yn ei sioe undyn sgubol o lwyddiannus, ddigri dat ddagrau, National Trevor. Fe ŵyr Sandi o’r gorau fod rhai pobl yn coleddu uchelgais i fod yn “National Treasure” ond, ar ôl camddealltwriaeth ag un o’i ffrindiau, penderfynodd yn hytrach ddod yn National Trevor – hanner camargraffu, hanner digrifwr o Ddaniad, nofelydd, actor a darlledwr.
Gewch chi ddisgwyl straeon asgwrn pen llo, ffeithiau cyfareddol o ddoniol, jôcs hurt bost, seiat holi ac ateb sgut a chwis. Peidiwch, da chi, â disgwyl na dawnsio tap, na gwniadwaith na’i gweld yn sefyll ar ei phen.
Cofiwch godi tocynnau’n fuan!
I gael rhagor o wybodaeth am Sandi, ewch i wefan Sandi Toksvig
“Never fails to delight and entertain” ****Mail on Sunday
“Wonderfully sharp” Time Out
“Laden with laughs” Guardian
“A breath of fresh air… lots of fun”**** The Times
Canllaw oedran: 14+
Hyd y Sioe: tua dwyawr yn cynnwys egwyl
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.