Josh Widdicombe: Bit Much...

Taith estynedig yn sgîl galw aruthrol!

Dyma’r cono mae pawb yn gallu’i ddynwared yn ei ôl ar daith ar ei ddeudroed, newydd sbon danlli grai. Sioe fydd yn rhoi tro ar fyd i chi ac yn chwyldroi sut y canfyddwch eich hun yn y byd hwnnw. Dros ben llestri? Iawn, noson ddigri dros ben fydd hi o gwynion a jôcs lle bydd Josh o’r diwedd yn mynd i’r afael â phynciau llosg comedi calendrau’r Dyfodiad , pesto ac amser cau ei barc lleol. 

Mae Widdicombe yn fwyaf adnabyddus am y sioeRTS arobryn The Last Leg a enwebwyd ddwywaith am wobr BAFTA ac a ddarlledwyd droeon lawer, yn ogystal â’i gomedi sefyllfa JOSH oedd yn fawr ei chlod gan y beirniaid, Insert Name HereQIHave I Got News For YouA League of Their Own a’i bodlediad sgubol o lwyddiannus Quickly Kevin Will He Score.

“one of the most bankable talents in UK comedy” Guardian Guide

“hugely appealing stand-up which marries a keen observational eye to a petulant anger at the apparent ludicrousness of the modern world” The Guardian 

“If they made frustration an Olympic sport the Last Leg co-host would win gold every time.” Evening Standard 

“Widdicombe’s charm and incurable exasperation with the modern world win the day” The I

 

 
 Pris Safonol £23

Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr