Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 8 Chwefror 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod digwyddiad Josh Widdicombe nos Iau 30 Ebrill 2020, 8pm wedi’i ohirio tan nos Mercher 21 Ebrill 2021 8pm, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Dyma’r cono mae pawb yn gallu’i ddynwared yn ei ôl ar daith ar ei ddeudroed, newydd sbon danlli grai. Sioe fydd yn rhoi tro ar fyd i chi ac yn chwyldroi sut y canfyddwch eich hun yn y byd hwnnw. Dros ben llestri? Iawn, noson ddigri dros ben fydd hi o gwynion a jôcs lle bydd Josh o’r diwedd yn mynd i’r afael â phynciau llosg comedi calendrau’r Dyfodiad , pesto ac amser cau ei barc lleol.
Mae Widdicombe yn fwyaf adnabyddus am y sioeRTS arobryn The Last Leg a enwebwyd ddwywaith am wobr BAFTA ac a ddarlledwyd droeon lawer, yn ogystal â’i gomedi sefyllfa JOSH oedd yn fawr ei chlod gan y beirniaid, Insert Name Here, QI, Have I Got News For You, A League of Their Own a’i bodlediad sgubol o lwyddiannus Quickly Kevin Will He Score.
“one of the most bankable talents in UK comedy” Guardian Guide
“hugely appealing stand-up which marries a keen observational eye to a petulant anger at the apparent ludicrousness of the modern world” The Guardian
“If they made frustration an Olympic sport the Last Leg co-host would win gold every time.” Evening Standard
“Widdicombe’s charm and incurable exasperation with the modern world win the day” The I
Oedran isaf: 14+ Rhegi a phynciau i oedolion yn debygol
Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.