Jonathan Pie: Fake News (Corona Remix)
Dydd Sadwrn 18 Medi 2021, 7.30pm
Bwciwch NawrO’r diwedd dyma FAKE NEWS yn ei hôl - sioe Jonathan Pie sy’n gwerthu pob tocyn bob gafael ac sy’n fawr ei chlod gan y beirniaid – wedi’i diweddaru a’i hailwampio ar gyfer y byd wedi Corona.
Ar ôl misoedd DAN GLO, mae Jonathan Pie ar daith unwaith eto i drafod sut mae corona wedi newid y byd… a dyfodol ei yrfa.
Jonathan Pie ydi’r gohebydd newyddion dicllon y gwelwyd ei fideos drwy’r byd yn grwn.A chanddo dros filiwn a hanner o ddilynwyr ar Facebook, yn rheolaidd mae miliynau’n gwylio’i fideos ar lein sy’n mynd ar hyd ac ar led drwy’r gwledydd fel slecs.
Yn sôn am Jonathan Pie, geiriau Ricky Gervais oedd ‘brilliant, brave, raw and analytical without forgetting to be funny’.
Roedd oedfannau megis yr Hammersmith Apollo a’r London Palladium dan eu sang ar gyfer ei dair sioe fyw ac fe’u perfformiwyd ledled yr Unol Daleithiau ac Awstralia.
Oedran isaf: 14+
"Brings the audience to their feet - hilarious"
Chortle
“as exquisitely performed as it is well written, damningly scathing of current political discourse and engagement” The Scotsman
"a true tour de force” Evening Standard
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07743 839816 / 07391 791934). Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.