Belinda Carlisle

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

DRYSAU'N AGOR 7PM

Ac Eraill - Emergency Tiara

Nos Lun 30 Medi 2019 mae’r eicon pop o’r wyth degau Belinda Carlisle yn dathlu’n grand o’i cho’ ddeng mlynedd ar hugain ers rhyddhau ei halbwm clasurol Runaway Horses. 

Ym mis Hydref 1989 y rhyddhawyd trydydd albwm solo’r gantores o California ac roedd yn llwyddiant ysgubol yng ngwledydd Prydain gyda chyrraedd Rhif 4 a chael ei ardystio’n albwm Platinwm. Yn ogystal â rhoi lle amlwg i gymanfa o artistiaid gwadd yn cynnwys George Harrison a Bryan Adams, mae Runaway Horses hefyd yn cynnwys amryw o hoff ganeuon Belinda gan gynnwys Leave a Light OnSummer Rain a La Luna. 

Daeth Belinda i enwogrwydd byd-eang yn gyntaf yn ganwr blaen y grŵp merched The Go-Gos cyn cychwyn ar yrfa doreithiog yn seren solo. Buon y dilynodd hits ysgubol gan gynnwys Mad About YouI Get WeakCircle in the Sand ac, yn enwocaf oll, Heaven is a Place on Earth – oedd ar frig y siartiau ar ddwy lan yr Iwerydd.

 
Pris Safonol £35 | £45 | £57.50

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr