2020 Kim Wilde – Taith yr Hits Mwyaf

Ar ôl i ‘Here Come The Aliens’ a’r albwm byw diweddar ‘Aliens Live’ fynd a hi drwy’r byd yn grwn, mae Kim Wilde a’i band bondibethma’n ei chychwyn hi ar daith unwaith eto yn 2020 ar Daith Hits Mwyaf Kim. Yn cynnwys senglau sgubol o lwyddiannus o 1981 hyd at 2020, bydd hwn yn ddigwyddiad rhy dda i’w golli nid yn unig i selogion Kim Wilde, ond hefyd i selogion yr wyth degau. 

Bydd yma glasuron fel ‘Kids In America’, ‘Hangin’ On’, ‘You Came’ a hits eraill a glywn yn llai aml fel ‘A Million Miles Away’ a ‘Love Is Holy’ – does dim dau nad hon fydd y sioe Kim Wilde ddihafal. 

Run fath ag yn holl sioeau Kim, mae’r goleuo a’r sain yn ddi-feth o’r radd flaenaf… yn wledd wych i’r llygad ac, wrth reswm, y band mwyaf cyffrous yn y busnes… yn cynnwys y ddau ddrymiwr chwedlonol! 

Gwesteion arbennig Kim ar y daith yma ydi China Crisis, y grŵp gafodd hits fel ‘Wishful Thinking’ a ‘King in a Catholic Style’.

 
 Pris Safonol £32 | £36 | £39

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr