Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Catrin Finch a Seckou Keita gyda’r gwesteion arbennig Vishtèn - AILDREFNU
Dydd Mercher 1 Mehefin 2022, 7.30pm
**AD-DREFNU SIOE | DYDDIAD NEWYDD 01.06.2022**
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Catrin Finch a Seckou Keita nos Wener 12 Mehefin 2020 a nos Lun 17 Mai 2021 wedi’i gohirio tan nos Fercher 1 Mehefin 2022 oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo COVID-19.
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Catrin Finch a Seckou Keita gyda’r gwesteion arbennig Vishtèn - AILDREFNU
Ym mis Medi 2019, teithiodd Catrin Finch a Seckou Keita i Ynys y Tywysog Edward ar lannau môr dwyreiniol Canada i gyfarfod a chydweithio â Vishtèn, hyrddwynt o driawd aml-offerynnol a hyrwyddwyr eu traddodiad cerddorol Acadiaidd dihafal drwy’r byd yn grwn. In 2020, daw’r cydweithredu hwnnw i wledydd Prydain ar daith untro sy’n cynnwys setiau gan y ddau artist a set arbennig iawn sy’n rhoi llwyfan i ddeunydd newydd gan Catrin, Seckou a Vishtèn gyda’i gilydd.
Mae Vishtèn yn cynnwys y ddwy efeilles Emmanuelle a Pastelle LeBlanc, o Ynys y Tywysog Edward, a Pascal Miousse – un o ddisgynyddion uniongyrchol y teuloedd gwladfaol cyntaf i fyw yn Ynysoedd Magdalene anghysbell Québec. Mae cytgordiau tynn, taro traed yn haenau a chydasiad nodweddiadol cymhellol y ffidil, y gitâr, yr acordion, chwibanoglau, y piano, y bodhrán a thelyn y genau’n creu sain eang sy’n dyffeio’n fuddugoliaethus ffiniau’r triawd yma y mae eu celfyddyd yn edrych ymlaen yn gymaint ag y mae’n edrych yn ôl.
Ers dechrau eu partneriaeth yn 2013 enillodd y deuawd mawr ei wobr - y delynores o Gymru Catrin Finch a’r meistr kora o Senegal Seckou Keita – fri aruthrol drwy’r byd yn grwn. Cyflwynodd y ddau ail albwm buddugoliaethus, sef SOAR yn 2018, yn olrhain tir cyffredin ysbrydoledig rhwng traddodiadau sydd i’w gweld yn wahanol ac mae eu hegni ar y cyd sy’n benfweddwol, ac yn aml o’r frest, yn dal dau feddwl a dwy ddawn yn cyfarfod yn hudol mewn tirwedd gerddorol heb ffiniau.
“a jaw-dropping set from an outstanding band”Folk Radio on Vishtèn
“they are now one of the most popular world music acts of this decade”Songlines on Catrin Finch & Seckou Keita
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Hawlwyr | Pobl anabl ynghyd ag un cydymaith: £20
Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): 2 gredyd
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.