Sir Bryn Terfel
Dydd Sadwrn 29 Hydref 2022, 7.30pm
Bwciwch NawrMae Neil O’Brien Entertainment yn falch o gyhoeddi y bydd y bas-bariton, Syr Bryn Terfel, yn perfformio naw cyngerdd fel rhan o daith o amgylch y DU. Testun y daith yw ‘Songs and Arias’.
Bydd y cyngherddau arbennig iawn yma yn dwyn ynghyd ddetholiad o brif rolau Syr Bryn Terfel o fyd yr opera a rhai alawon enwog y theatr gerdd a'r neuadd gerddoriaeth. Bydd yn perfformio caneuon ac arias y mae wrth ei fodd yn eu canu, dan arweiniad ei gydweithiwr hirsefydlog, yr arweinydd Gareth Jones gyda Sinfonia Cymru. Bydd y detholiad personol hwn gan un o gantorion mwyaf poblogaidd y byd yn cynnwys cerddoriaeth sy’n amrywio o Mozart i Wagner i gerddoriaeth o’i wlad enedigol mewn noson fythgofiadwy!
Dywedodd Syr Bryn Terfel ei hun, "Rwy'n falch iawn o fod yn mynd ar daith o amgylch y DU fis Hydref nesaf yn perfformio fy hoff ganeuon yng nghwmni fy ffrindiau mawr, yr arweinydd Gareth Jones a Sinfonia Cymru. Rwyf wedi dewis detholiad o’m hoff ganeuon o fyd yr opera i sioeau cerdd a chaneuon o Gymru…. ychydig o bopeth! Alla i ddim disgwyl cyflwyno’r rhaglen hon i gynulleidfaoedd Yr Alban, Lloegr a Chymru.
Mae’r bas-bariton o Gymro, Syr Bryn Terfel, wedi sefydlu gyrfa eithriadol, yn perfformio’n gyson ar lwyfannau cyngerdd a thai opera mawreddog y byd. Mae Syr Bryn yn enillydd gwobrau Grammy, Classical Brit a Gramaphone ac mae ei gatalog o ddisgiau yn cwmpasu operâu Mozart, Wagner a Strauss, a mwy na phymtheg o ddisgiau sengl gan gynnwys Lieder, theatr gerdd America, caneuon Cymraeg a cherddoriaeth gysegredig.
Ac yntau yr un mor gartrefol ar lwyfan cyngerdd, mae uchafbwyntiau gyrfa Syr Bryn Terfel yn amrywio o seremoni agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru, Last Night of the Proms y BBC a'r Royal Variety Show i Gyngerdd Gala gydag Andrea Bocelli yn Central Park, Efrog Newydd a churadu cyngerdd Nadolig arbennig a ffrwd ryngwladol fyw ar gyfer cyfres 'Met Stars Live in Concert' y Metropolitan Opera o Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Bydd y daith 'Songs and Arias' o amgylch y DU yn gyfle gwych i gefnogwyr Syr Bryn Terfel ailgysylltu ag un o’r berfformwyr byw anwylaf ac uchel ei barch yn y byd.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.